12/07/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae pecynnau lles yn cael eu hanfon at ofalwyr ifanc ledled Ceredigion i gefnogi eu lles a’u hannog i ddarllen yr haf hwn.

 Mae gofalwyr ifanc yn wynebu’r anhawster o gydbwyso eu cyfrifoldebau gofalu â’u bywyd bob dydd, gan gynnwys eu haddysg. Bydd y pecynnau lles hyn yn rhoi hwb iddynt ac yn cydnabod eu gwaith rhagorol.

Mae cyfanswm o 80 pecyn wedi’u darparu mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Llyfrau Cymru. Maent yn cynnwys detholiad o chwe llyfr darllen, pecyn o hadau cyfeillgar i wenyn, potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio a siocled blasus o Gymru, yn ogystal â Dyddlyfr Sgiliau Gofalwyr Ifanc.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad darllen plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd y galwadau a’r anawsterau cynyddol o ganlyniad i bandemig parhaus y coronafeirws. Yr haf diwethaf, anfonwyd 100 o becynnau at 100 o deuluoedd â phlant a dderbyniodd gymorth drwy’r Awdurdod Lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ac Eiriolwr dros Ofalwyr: “Rwy’n falch iawn o’r cynllun gwych hwn rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a’r Awdurdod Lleol i ddarparu pecynnau lles ystyrlon i’n gofalwyr ifanc. Mae bod yn ofalwr ifanc yn heriol ar y gorau, ond cyflwynwyd pwysau ychwanegol dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig. Gobeithiwn y bydd y pecynnau lles yn rhoi mwynhad mawr i’n gofalwyr ifanc wrth inni gydnabod eu gwaith rhagorol.”

Dywedodd Angharad Sinclair, Rheolwr Datblygu Prosiect Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n hyfryd cael gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion eto ar gynllun mor werth chweil a fydd yn rhoi hwb i hyder ac yn cydnabod cyflawniadau’r gofalwyr ifanc hyn yn ystod cyfnod anodd iawn. Gall ymgolli mewn llyfr fod yn ffordd effeithiol i ni i gyd gymryd seibiant o bwysau beunyddiol bywyd, a gobeithiwn y bydd y pecynnau llyfrau hyn yn annog eu taith ddarllen hefyd.”

Mae rhagor o wybodaeth a chymorth i ofalwyr yng Ngheredigion ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-ofalwyr/

%d bloggers like this: