03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pedwar o arbenigwyr pori yn ymuno â Phrosiect Porfa Cymru ar gyfer 2021 / Four grazing experts join the Welsh Pasture Project for 2021

MAE gan Gymru fantais aruthrol yn ei gallu i dyfu llawer iawn o laswellt o ansawdd da. O’i reoli’n gywir, mae glaswellt sy’n cael ei bori yn rhoi porthiant o ansawdd da i anifeiliaid, yn lleihau’r angen i ddefnyddio gwrtaith nitrogen, yn gallu cadw carbon yn y pridd ac mae’n cael ei gysylltu ag elw uwch cyson ar ffermydd.

Nod Prosiect Porfa Cymru yw darparu gwybodaeth a chyngor rheoli ar sail tueddiadau tyfu glaswellt gwahanol ardaloedd, a gofnodwyd yn ofalus gan y ffermwyr ymroddedig sy’n rhan o’r prosiect. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella eich dulliau rheoli pori OND ddim yn mesur glaswellt ar hyn o bryd, dyma’r prosiect i chi!

Bydd y wybodaeth yn eich helpu i wneud penderfyniadau amserol am reoli glaswelltir ar y fferm megis:

A ddylwn droi’r da byw allan?
A ddylwn gau’r caeau ar gyfer silwair?
A ddylwn ychwanegu porthiant clustogi?
A ddylwn chwalu gwrtaith yr wythnos hon?
A ddylwn ddiddyfnu fy ŵyn?
Dengys gwaith ymchwil bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda mewn sefyllfa fwy cadarn bod ffermwyr sy’n rheoli glaswellt yn dda yn fwy proffidiol ac yn gallu gwrthsefyll sgil-effeithiau’r tywydd yn well.

Mwy o ffermydd a mwy o gyfraddau twf ar gyfer 2021!

Ar gyfer 2021, rydym wedi cynyddu nifer y ffermydd i 49. Ceir amrywiol systemau, mathau o dir a lefelau profiad ymysg y ffermydd a’r ffermwyr a bydd pob un ohonynt yn mesur twf eu glaswellt bob 7 i 14 diwrnod rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd.

Eleni mae gennym:

Nifer y ffermwyr biff a defaid: 29
Nifer y ffermwyr llaeth: 20
Os gwelwch fferm yn yr un ardal â chi, cadwch olwg ar dwf eu glaswellt, mae’n debygol y bydd tueddiad tyfu tebyg yn digwydd ar eich fferm chi! Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniadau rheoli rhagweithiol ar eich fferm eich hun.

Ffermwyr glaswellt arbenigol

Yn newydd ar gyfer 2021, mae gennym bedwar o arbenigwyr pori!

Dewiswyd y pedwar ffermwr hyn oherwydd eu gwybodaeth a’u sgiliau rheoli glaswelltir ardderchog i roi inni olwg ar eu systemau ac i roi gwybodaeth am wneud penderfyniadau amserol dros y flwyddyn.

Ianto Pari – Ffermwr biff a defaid – Gwynedd
Rhys Williams – Ffermwr llaeth – Gwynedd
Andrew Giles – Ffermwr llaeth – Powys
Bleddyn Davies – Ffermwr defaid – Ceredigion

Lansio’r prosiect: Cyhoeddir y set gyntaf o nodiadau rheoli ar 11 Mawrth. Cofiwch gadw golwg ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Cyswllt Ffermio fel na fyddwch yn eu methu nhw! Chwiliwch ar-lein am #ProsiectporfaCymru

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Wales has a huge competitive advantage in its ability to reliably grow large amounts of high-quality grass. When managed correctly grazed grass provides high value feed for animals, reduces use of nitrogen fertiliser, can sequester carbon in the soil and is linked to consistent higher profits on farm.

The Welsh Pasture Project aims to provide information and management advice based on regional grass growth trends, which have been carefully recorded by the dedicated project farmers. If you are interested in improving your grazing management BUT not currently measuring grass, this project is for you!

The information will help you make timely on-farm grassland management decisions such as:

Should I turn my livestock out?
Should I close fields for silage?
Should I add buffer feed?
Should I spread fertiliser this week?
Should I wean my lambs?
Research has shown farmers that manage grass well are more resilient to weather events and consistently more profitable.

More farms and more growth rates for 2021!

For 2021, we have increased the number of farms to 49. There is a range of systems, land types and experience levels of farms and farmers where all will measure their grass growth every 7-14 days from March to November.

This year we have:

Number of beef and sheep farmers: 29
Number of dairy farmers: 20
If you see a farm within the same region as you, monitor their grass growth, as it is likely a similar growth trend is happening on your farm! This will help support proactive management decisions on your own farm.

Expert grass based farmers

New for 2021, we have four grazing experts!

These four farmers have been chosen based on their excellent grassland management skills and knowledge to provide an insight into their system and timely decision-making information over the year.

Ianto Pari – Beef and sheep farmer – Gwynedd
Rhys Williams – Dairy farmer – Gwynedd
Andrew Giles – Dairy farmer – Powys
Bleddyn Davies – Sheep farmer – Ceredigion

Project launch: The first set of management notes will be published on 11 March. Keep an eye out on Farming Connect’s social media and website to make sure you don’t miss them! Search online for #Welshpastureproject

Farming Connect, which is delivered by Menter a Busnes and Lantra, has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

 

%d bloggers like this: