03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Peidiwch bod ar eich colled i hawlio Budd-dal Plant

MAE CThEM yn cyhoeddi cyngor i rieni newydd am hawlio Budd-dal Plant dros y ffôn neu drwy’r post

Bydd rhieni plant newydd-anedig yn dal i allu hawlio Budd-dal Plant er gwaethaf coronafeirws (COVID-19), yn ôl cyhoeddiad gan CThEM.

Er bod y Swyddfeydd Cofrestru Cyffredinol yn parhau i fod ar gau am y tro, bydd rhieni yn dal i allu hawlio Budd-dal Plant heb orfod cofrestru genedigaeth eu plentyn yn gyntaf. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydynt ar eu colled.

Bydd yn rhaid i rieni tro cyntaf lenwi ffurflen hawlio Budd-dal Plant CH2 sydd i’w chael ar-lein, a’i hanfon i’r Swyddfa Budd-dal Plant. Os nad ydynt wedi cofrestru’r enedigaeth eto oherwydd COVID-19, dylent ychwanegu nodyn gyda’u hawliad er mwyn rhoi gwybod i ni.

Os ydynt eisoes yn hawlio Budd-dal Plant, gallant lenwi’r ffurflen neu ychwanegu manylion eu plentyn newydd-anedig dros y ffôn ar 0300 200 1900. Bydd angen eu rhif Yswiriant Gwladol neu rif Budd-dal Plant arnynt.

Gellir ôl-ddyddio hawliadau Budd-dal Plant hyd at dri mis.

Mae’r cyhoeddiad hwn yn amserol gan fod taliadau Budd-dal Plant wedi cynyddu i gyfradd wythnosol o £21.05 ar gyfer y plentyn cyntaf ac £13.95 am bob plentyn ychwanegol, o 6 Ebrill ymlaen. Telir Budd-dal Plant i gyfrif banc rhiant, fel arfer bob pedair wythnos.

Dim ond un person all hawlio Budd-dal Plant ar gyfer plentyn. Ar gyfer cyplau, os nad yw un o’r partneriaid yn gweithio neu’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG), bydd hawlio yn enw’r partner hwnnw’n helpu i ddiogelu’i Bensiwn y Wladwriaeth.

Meddai’r Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys, Jesse Norman:

“Mae angen i bobl aros gartref er mwyn diogelu’r GIG ac achub bywydau. Mae’r newid heddiw’n golygu na fydd rhieni newydd ar eu colled yn ariannol a gallant gadw eu teuluoedd yn ddiogel.

“Bydd y llywodraeth yn gwneud pob dim yn ei gallu i gefnogi pobl a’r GIG yn ystod coronafeirws, ac mae CThEM yn gweithio ddydd a nos i helpu teuluoedd a busnesau ar draws y DU.”

Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid CThEM:

“Mae’n bwysig iawn bod rhieni newydd yn cofio cofrestru ar gyfer Budd-dal Plant, hyd yn oed yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.

“Mae’r cynnydd Budd-dal Plant yn hwb i bocedi teuluoedd ond mae hawlio’r taliadau hyn yn rhoi manteision eraill hefyd. Rydym yn annog pobl i hawlio fel nad ydynt yn colli’r cyfle i gael credydau Yswiriant Gwladol sy’n helpu i ddiogelu eu Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hefyd yn helpu plant i gael eu rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig yn 16 oed.”

Mae CThEM yn atgoffa cwsmeriaid Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel o bwysigrwydd hawlio Budd-dal Plant, hyd yn oed os ydynt yn optio allan o gael buddiannau ariannol.

Mae’r tâl treth yn berthnasol i unrhyw un sydd ag incwm dros £50,000 sy’n hawlio Budd-dal Plant, neu sydd â phartner sy’n ei hawlio. Hyd yn oed os oes rhaid i chi dalu’r tâl treth, gallech fod ar eich ennill drwy hawlio Budd-dal Plant – mae’r dreth yn 1% o Fudd-dal Plant am bob £100 o incwm sydd dros £50,000.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant i gyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu o bosibl, neu gallwch optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant yn gyfan gwbl pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen fel na fydd yn rhaid i chi dalu’r tâl ond bydd yn dal i ddiogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

%d bloggers like this: