03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Peidiwch ddefnyddio tir amaethyddol ar gyfer coed” medd Plaid Cymru

MAE Plaid Cymru wedi galw am ddysgu gwersi dros brynu Ystâd Brownhill
gan Lywodraeth Cymru – llain o dir amaethyddol blaenllaw a gafodd ei
brynu er mwyn plannu coed, dim ond i Lywodraeth Cymru ailfeddwl eu
cynlluniau.

Yn dilyn ymgynghoriad, ymgyrchu gan y Countryside Alliance, a Phlaid
Cymru yn codi’r mater yn y Senedd, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y
byddai Ystâd Brownhill yn Nyffryn Tywi yn cadw rhywfaint o’i ddefnydd
amaethyddol, gan gyfuno cynhyrchu bwyd â phlannu coed.

Mae llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Mabon
ap Gwynfor AS wedi galw am “ddysgu gwersi” o’r “saga druenus”
hon ac i Lywodraeth Cymru edrych eto ar leiniau eraill o dir amaethyddol
o bwys y mae wedi’i brynu er mwyn plannu coed, fel Tyn Mynydd tu allan
i Borthaethwy yn Ynys Môn.

Mae Mr ap Gwynfor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda’r
gymuned wledig o’r cychwyn i gydnabod y tir gorau ar gyfer ei rhaglen
plannu coed, er mwyn sicrhau eu bod wirioneddol yn gallu plannu “y
goeden gywir yn y lle iawn am y rheswm cywir”.

Dywedodd Mabon ap Gwynfor AS,

“Mae’r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru i gadw tir amaethyddol
blaenllaw ar gyfer cynhyrchu bwyd ar Ystâd Brownhill i’w groesawu’n
fawr, er mor hwyr.

“Nid yw tir porfa amaethyddol yn cael ei droi, ac mae’r gwreiddiau
a’r pridd yn cloi cymaint o garbon i mewn â rhai coed, felly fyddai
plannu coed ar y tir hwn ddim yn achosi mwy o fudd amgylcheddol.

“Yn ogystal, byddai colled i Gymru o’r tir gwerthfawr hwn sy’n
cynhyrchu bwyd, yn cael effaith ddinistriol, nid yn unig o ran cynhyrchu
bwyd, ond o ran colli cymunedau gwledig sydd wedi eu hadeiladu o gwmpas
ffermydd, a’r erydiad graddol ar ffordd o fyw, iaith a diwylliant
sy’n cael eu plethu’n unigryw â bywyd cefn gwlad Cymru.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos eu bod wedi dysgu gwersi fel
hyn – er lles cenedlaethau’r dyfodol.

“Yn y cyfamser, mae tiroedd pori amaethyddol sydd eisoes wedi cael eu
prynu gan Lywodraeth Cymru – fel Tyn Mynydd ar Ynys Môn. Rwy’n erfyn
ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad i blannu coed ar y tir
pori amaethyddol gwerthfawr hwn.”

%d bloggers like this: