04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Peiriant anadlu newydd ar gyfer COVID-19

MAE math newydd o beiriant anadlu, a ddatblygwyd yn Sir Gaerfyrddin i drin cleifion coronafeirws, wedi cael ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Cafodd y ddyfais ei dylunio gan y Dr Rhys Thomas, sy’n Uwch-ymgynghorydd yn Ysbyty Glangwili, gyda chymorth Maurice Clarke o CR Clarke & Co., sef cwmni peirianneg yn Rhydaman.

Mae’r peiriant Covid CPAP yn helpu cleifion i anadlu’n haws, a bydd bellach yn destun treialon clinigol.

Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, wedi croesawu’r newyddion.

Dywedodd: “Mae hon yn enghraifft wych o arbenigedd meddygol a thechnegol yn dod at ei gilydd ar adeg dyngedfennol i ymateb i’r her aruthrol o ddelio â’r feirws ofnadwy hwn.

“Rhaid canmol Bwrdd Iechyd Hywel Dda am ei ffydd wrth hwyluso’r prosiect yn ystod yr argyfwng hwn, nad ydym ni wedi gweld ei debyg yn ein hoes ni.

“Calonogol yw gweld y sector busnes lleol yn flaenllaw o ran dyfeisgarwch a mentergarwch yn yr argyfwng presennol.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gorfod addasu wardiau ysbytai i drin cleifion coronafeirws sy’n ddifrifol wael, ac mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda’r Bwrdd i sefydlu pedwar ysbyty maes yn y sir.

Mae’r Cyngor yn troi canolfannau hamdden Caerfyrddin a Llanelli, Canolfan Selwyn Samuel, ac ysgubor Parc y Scarlets yn Llanelli, yn ysbytai dros dro i ddarparu gwelyau GIG ychwanegol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dole: “O ran gwelyau, mae Sir Gaerfyrddin mor barod ag y gallwn fod, ond yn amlwg mae unrhyw beth sy’n helpu i dynnu pwysau oddi ar ein hysbytai a’n staff GIG, ac sy’n eu helpu i achub bywydau, i’w groesawu’n fawr.”

Dywedodd yr Athro Keir Lewis, Arweinydd Anadlol Hywel Dda: “Bellach mae gan y peiriant CPAP addawol hwn y cynlluniau priodol a’r gefnogaeth ledled Cymru i fod yn destun gwerthusiad cyflym a gofalus gyda chleifion, ac rydym yn disgwyl canlyniadau’r treialon hyn yn eiddgar.”

%d bloggers like this: