04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pennaeth a Dirprwy Bennaeth ar gyfer ysgol newydd Bro Caereinion

PENODWYD Huw Lloyd-Jones yn Bennaeth ac Edward Baldwin yn Ddirprwy Bennaeth yn dilyn proses recriwtio helaeth dan oruchwyliaeth Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion.

Mae Huw Lloyd-Jones yn Bennaeth Cynorthwyol yn Ysgol Llanfyllin ar hyn o bryd ac mae Edward Baldwin yn Ddirprwy Bennaeth Dros Dro Ysgol Uwchradd Caereinion.

Mae hyn yn garreg filltir bwysig a cham mawr ymlaen wrth sefydlu’r ysgol bob oed newydd yn Llanfair Caereinion a fydd yn agor yn swyddogol ym mis Medi 2022 ar safleoedd presennol Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ac Ysgol Uwchradd Caereinion.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi penodi Pennaeth a Dirprwy Bennaeth ar gyfer Ysgol Bro Caereinion ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r ddau yn y cyfnod pontio i’r ysgol newydd.”

Mae Mr Lloyd-Jones, yn rhugl yn y Gymraeg ac yn byw gyda’i deulu yn Llanfechain, Powys. Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Aman a graddiodd o Brifysgol Llanbedr Pont Steffan. Mae’n dod â phrofiad helaeth o sefydlu ysgol bob oed a gweithio’n effeithiol gyda staff a rhieni bob cam o’r ffordd.

Mae Mr Baldwin yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Caereinion ac yn un o raddedigion Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Ers iddo ymuno ag Uwch Dîm Arwain Ysgol Uwchradd Caereinion yn 2018, mae Mr Baldwin wedi arwain polisi ymddygiad newydd effeithiol sydd bellach wedi’i wreiddio yn niwylliant yr ysgol.

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Mr Lloyd-Jones:

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint enfawr cael fy mhenodi’n Bennaeth Ysgol Bro Caereinion. Mae gweledigaeth yr ysgol i roi’r cyfleoedd gorau i bob disgybl drwy addysg ddwyieithog o ansawdd uchel yn cyd-fynd yn agos â’m gweledigaeth fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at ymuno â’r gymuned, dod i adnabod disgyblion, staff a rhieni a meithrin perthnasoedd newydd.”

Yn ddiweddar cymeradwyodd Corff Llywodraethu Dros Dro Ysgol Bro Caereinion ei weledigaeth Gymraeg ar gyfer Ysgol Bro Caereinion, sy’n nodi gweithio ochr yn ochr â’r gymuned i roi’r gallu i blant fyw’n ddwyieithog o’r crud i’r gweithle. Mae’r weledigaeth yn rhoi llwybr i ddarparu addysg ddwyieithog o’r radd flaenaf.

Dywedodd y Cynghorydd Phyl Davies, Aelod Cabinet Addysg ac Eiddo Cyngor Sir Powys:

“Hoffwn longyfarch Huw ac Edward ar eu hapwyntiadau fel pennaeth a dirprwy bennaeth Ysgol Bro Caereinion.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Huw ac Edward wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wella canlyniadau ein dysgwyr yn ogystal â datblygu a gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Llanfair Caereinion. Rwy’n dymuno’r gorau iddynt.”

 

%d bloggers like this: