YM mis Medi 2022 bydd pennod gyffrous newydd yn addysg Gatholig ym Merthyr Tudful pan fydd y tair ysgol gynradd Gatholig ac un Ysgol Uwchradd Gatholig yn uno yn ffurfiol i greu un ysgol o’r enw Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis.
Bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn aros am y tro, ond bydd adeilad newydd pwrpasol yn cael ei ddatblygu ar safle presennol Ysgol Gyfun yr Esgob Hedley. Pan fydd wedi ei gwblhau bydd yr adeilad newydd yn darparu ar gyfer disgyblion o 3 i 16. Er bod yr arfer arloesol yn gweithio yn dda yng ngogledd Cymru, hon fydd yr ysgol Gatholig gyntaf o’r math yma yn Ne Cymru.
Wrth siarad am y cyfleoedd addysgol y bydd hyn yn ei roi i’n disgyblion, croesawodd yr Archesgob George Stack y cydweithio agos rhwng Archesgobaeth Caerdydd a Chyngor Sir Merthyr Tudful, sydd wedi arwain at y datblygiad sylweddol hwn.
Ychwanegodd:
“Rydw i’n sicr y bydd y disgyblion a fydd yn mynychu’r ysgol o Ferthyr Tudful a chymunedau cyfagos ym Mlaenau’r Cymoedd yn gweld y Bendigaid Carlo Acutis y llanc o sant yn ysbrydoliaeth a model rôl arbennig yn eu taith trwy fywyd a ffydd”.
More Stories
Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro
Ymateb Llywodraeth Cymru i data perfformiad diweddaraf GIG Cymru
Ymateb Mick Antoniw i bendyrfyniad y Goruchaf Lys
Datblygu adnodd Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu newydd gwerth £1.5m ar gyfer pobl ifanc
Tymor newydd i ysgolion yn dod â chymorth ariannol ar gyfer hanfodion ysgol
Gwaith ar fflatiau cyngor arloesol i bobl hŷn yn cyrraedd carreg filltir