YM mis Medi 2022 bydd pennod gyffrous newydd yn addysg Gatholig ym Merthyr Tudful pan fydd y tair ysgol gynradd Gatholig ac un Ysgol Uwchradd Gatholig yn uno yn ffurfiol i greu un ysgol o’r enw Ysgol Gatholig y Bendigaid Carlo Acutis.
Bydd adeiladau’r ysgolion presennol yn aros am y tro, ond bydd adeilad newydd pwrpasol yn cael ei ddatblygu ar safle presennol Ysgol Gyfun yr Esgob Hedley. Pan fydd wedi ei gwblhau bydd yr adeilad newydd yn darparu ar gyfer disgyblion o 3 i 16. Er bod yr arfer arloesol yn gweithio yn dda yng ngogledd Cymru, hon fydd yr ysgol Gatholig gyntaf o’r math yma yn Ne Cymru.
Wrth siarad am y cyfleoedd addysgol y bydd hyn yn ei roi i’n disgyblion, croesawodd yr Archesgob George Stack y cydweithio agos rhwng Archesgobaeth Caerdydd a Chyngor Sir Merthyr Tudful, sydd wedi arwain at y datblygiad sylweddol hwn.
Ychwanegodd:
“Rydw i’n sicr y bydd y disgyblion a fydd yn mynychu’r ysgol o Ferthyr Tudful a chymunedau cyfagos ym Mlaenau’r Cymoedd yn gweld y Bendigaid Carlo Acutis y llanc o sant yn ysbrydoliaeth a model rôl arbennig yn eu taith trwy fywyd a ffydd”.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m