03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mae gwaith adnewyddu ac ailgynllunio mawr wedi’i gwblhau yn Llyfrgell Treorci yn rhan o fuddsoddiad ar y cyd gwerth £150,000 gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru i wella’r cyfleusterau i ddefnyddwyr a’r gymuned leol.

Mae Llyfrgell Treorci, sydd wedi’i lleoli gyferbyn â Theatr y Parc a’r Dâr, yng nghanol y gymuned, yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan drigolion o bob oed. Mae’r gwelliannau yma’n gwneud y llyfrgell yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.

Roedd y gwelliannau mewnol yn cynnwys ailgynllunio’r brif dderbynfa yn llwyr, gan ddarparu gofod a man gwybodaeth mwy hyblyg i’r holl ddefnyddwyr ac ymwelwyr.

Mae’r gwaith yn cynnwys creu oriel a gofod amlbwrpas er mwyn arddangos

ystod eang o gelf weledol a chreadigol ac arteffactau, gan artistiaid proffesiynol, grwpiau cymunedol ac unigolion. Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn arddangos eu gweithiau yn Llyfrgell Treorci ffonio: 01443 773204 neu anfon e-bost:  llyfrgell.treorci@rctcbc.gov.uk.

Mae’r brif lyfrgell fenthyca hefyd wedi cael ei had-drefnu drwyddi draw. Yn rhan o hyn, mae ardal boblogaidd y plant wedi cael ei symud i ran arall o’r llyfrgell sy’n cynnwys llwyfan mae modd ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau.

Mae’r cyfleusterau TG hefyd wedi’u gwella yn Llyfrgell Treorci, gan greu ystafell TG newydd sbon gydag wyth cyfrifiadur ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio, ynghyd â sgrîn ryngweithiol fawr.

Meddai’r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol:

“Rydw i wrth fy modd bod y gwaith yn Llyfrgell Treorci bellach wedi’i gwblhau, gan wneud y lleoliad yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr.

“Mae Llyfrgell Treorci’n parhau’n ganolbwynt i’r gymuned, fel  ein llyfrgelloedd mewn trefi a phentrefi ledled Rhondda Cynon Taf. Maen nhw’n lleoedd prysur a bywiog a daeth eu rôl hanfodol nhw o fewn ein cymunedau i’r amlwg yn ystod y pandemig byd-eang, yn dilyn cyflwyno’r gwasanaeth Archebu a Chasglu. Mae’r gwasanaeth yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw er bod pob un o’n llyfrgelloedd bellach ar agor unwaith eto.

“Mae’r gwaith buddsoddi yma yn Llyfrgell Treorci yn cadarnhau ei lle yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu, ac rydw i’n annog defnyddwyr o bob oed i fwynhau’r lleoliad a’r gwasanaethau y mae’n eu darparu.”

 

%d bloggers like this: