03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Penodi Carl Harris yn Brif Weithredwr Plaid Cymru

YN dilyn proses recriwtio gystadleuol a chynhwysfawr, mae Carl Harris wedi ei benodi’n Brif Weithredwr newydd Plaid Cymru.

Bydd Mr Harris sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Strategaeth y Blaid yn olynnu Marc Phillips a fu yn y swydd dros dro ers y flwyddyn newydd.

Dywedodd Mr Harris ei fod yn cyrmyd y rôl “gyda balchder a gostyngeiddrwydd.”

Yn wreiddiol o Abertawe, mae Carl Harris wedi gweithio i Blaid Cymru am ddegawd gan gynnwys cyfnod fel Pennaeth Staff yn Swyddfa etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Wrth ymateb i’r penodiad dywedodd Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones:

“Yn dilyn proses recriwtio drylwyr a chystadleuol, mae’n bleser croesawu Carl Harris i rôl y Prif Weithredwr.

Mae Carl yn barod wedi gwasanaethu’r Blaid yn ddiflino am ddegawd a mwy a bydd ei brofiad o weithio o fewn etholaeth ac yn genedlaethol yn gaffaeliad i’r Blaid wrth iddo ymgymryd â’i ddyletswyddau newydd.

Gyda chyfnod cyffrous o adeiladu ac adfywio o’n blaenau gwn fod y Blaid mewn dwylo saff.

Rydym yn ddiolchgar tu hwnt i Marc Phillips am gymryd yr awenau dros dro ac mae ein dyled yn fawr iddo am ei waith dros y misoedd diwethaf.”

Mae Carl Harris, 36, yn gyn Ddirprwy Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a gwasanaethodd fel Is-gadeirydd Cymru X, cyn Adran Ieuenctid Plaid Cymru. Yn 2017 fe’i etholwyd i gynrychioli Ward Saron ar Gyngor Sir Caerfyrddin, ar ôl ennill sedd a fu yn nwylo Llafur am 13 blynedd.

Ag yntau ar fin dechrau’r rôl newydd, dywedodd Carl Harris:

“Rwyf wedi bod yn ffodus i weithio o fewn teulu Plaid Cymru am nifer o flynyddoedd, a gyda’r balchder a gostyngeiddrwydd mwyaf y cymeraf y rôl fel Prif Weithredwr ein plaid.

Cryfder Plaid Cymru yw ei haelodau llawr gwlad ac ymdrechion diflino ein gwirfoddolwyr a’n staff.

Rwy’n gweld fy rôl fel un o rymuso a chefnogi: meithrin y berthynas rhwng y swyddfa ganolog a’n rhwydweithiau o ganghennau ac etholaethau, ac adeiladu’r Blaid i sefyllfa lle rydym yn fwy abl i fuddsoddi yn ein haelodaeth a’n hymgyrchoedd ledled y wlad.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r aelodaeth i helpu i chwarae fy rhan wrth adeiladu ac adnewyddu’r Blaid.”

Bydd Carl yn dechrau yn ei rôl newydd yn ffurfiol ar Awst 1af

%d bloggers like this: