04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Penodi datblygwr ar gyfer Pentref Gerddi’r Siartwyr

MAE’r datblygwr partneriaeth blaenllaw, Lovell, wedi’i ddewis fel y datblygwr dewisol i gyflawni cynllun dylunio ac adeiladu newydd ar hen safle swyddfeydd y Cyngor, Pontllan-fraith.

Mae Pobl Group wedi dewis Lovell fel partner dewisol i adeiladu 123 o gartrefi newydd ar y safle strategol bwysig hwn, a fydd yn cynnwys cymysgedd o 40 o gartrefi ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely i’w gwerthu ar y farchnad agored, 40 o gartrefi rhanberchnogaeth fforddiadwy, a 43 o dai rhent cymdeithasol fforddiadwy.
Roedd y tir yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sydd wedi chwarae rhan ganolog yn y bartneriaeth a fydd yn datblygu cartrefi deiliadaeth gymysg o ansawdd uchel.

Mae’r datblygiad – sef Pentref Gerddi’r Siartwyr – wedi’i ddylunio o amgylch egwyddorion pentref gerddi, sy’n cyfuno dylunio traddodiadol â chrefftwaith cyfoes manwl, gan alluogi perchnogion tai i gael budd o le gwell a thirweddau cyfagos o goed stryd, lleiniau glas, pwll dŵr a mannau gwyrdd agored cyhoeddus.

Mae pentrefi gerddi yn rhannu sylfaen hanesyddol o wella cymunedau trwy ddiwydiant a chyflogaeth, gyda datblygwyr yn ceisio creu lleoedd bywiog ac iach, sydd wedi’u dylunio’n dda, gyda thai fforddiadwy.

Cafodd y contract ei ddyfarnu i Lovell oherwydd eu gallu i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel gan gadw at safonau iechyd a diogelwch cadarn, ac mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ddechrau fis nesaf (Chwefror 2022).

Meddai rheolwr gyfarwyddwr rhanbarthol Lovell, James Duffett:

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael ein penodi i ddarparu’r cartrefi hyn y mae mawr eu hangen ym Mhontllan-fraith, ac mae’n bleser mawr parhau â’n partneriaeth waith gyda Pobl ar ôl cyflawni cynllun arobryn gyda’n gilydd, sef Loftus Garden Village.

“Fel datblygwr pum-seren sydd wedi arwyddo Siarter Creu Lleoedd Cymru, rydyn ni wedi cael y clod am ddarparu rhagoriaeth nid yn unig o ran ansawdd ein hadeiladau ni, ond hefyd o ran ein gwasanaeth ni, gyda’r nod o greu cartrefi a lleoedd sydd o fudd gwirioneddol i bobl leol.”

Dywedodd Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

“Rydyn ni’n llawn cyffro o weithio mewn partneriaeth â Pobl Group a Lovell i ddod â’r datblygiad tai blaenllaw hwn i Bontllan-fraith.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel i helpu ateb y galw yn y Fwrdeistref Sirol, ac rydyn ni wrth ein bodd bod dwy ran o dair o’r cartrefi yn y datblygiad hwn wedi’u dyrannu’n dai fforddiadwy.

“Bydd hyn yn helpu ateb y galw cynyddol rydyn ni’n ei weld am dai cymdeithasol, a hefyd yn galluogi pobl i brynu eiddo am y tro cyntaf.”

Meddai Ellis Cunliffe Grwp Pobl, Rheolwr Prosiectau, : www.poblgroup.co.uk:

“Mae’n wych gweld y datblygiad cyffrous hwn yn dechrau. Rydyn ni’n falch o gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Lovell ar y prosiect hwn i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel, sy’n dystiolaeth o ymrwymiad Pobl i ddarparu atebion byw fforddiadwy lle mae eu hangen nhw ledled Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gwblhau’r datblygiad hwn yn ystod haf 2024.”

Mae gan Lovell sgôr pum-seren gan Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi (HBF) ar ôl i dros 90% o’u cwsmeriaid ddweud y bydden nhw’n argymell cartrefi Lovell i’w ffrindiau a’u teulu.

%d bloggers like this: