03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Penwythnos Siarad Cyhoeddus Rithiol C.Ff.I Sir Gâr 2021

Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin yn rithiol am y tro cyntaf erioed ar ddydd Sadwrn 27ain a dydd Sul 28ain o Fawrth. Er yn brofiad newydd i’r Sir, roedd safon y cystadlu dal i fod yn uchel iawn dros yr 8 adran wahanol.

 

Diolch i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi o’i hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.

 

Pob lwc i’r holl aelodau fydd yn cynrychioli’r Sir ar lefel Cymru ddiwedd mis Ebrill!

 

Siarad Cyhoeddus Cymraeg:

 

Adran Ddarllen

Miss Naomi Nicholas cafwyd y dasg o feirniadu 8 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 15. Dyma’r canlyniadau:

 

Tîm buddugol:

C.Ff.I Penybont – Celyn Richards, Olwen Roberts a Gilbert Roberts

 

Unigolyn Gorau:

Celyn Richards, C.Ff.I Penybont

 

 

Adran Iau

Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 17, Mr Cennydd Jones oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 4 tîm yn cystadlu. Dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

Tîm Swyddfa – Gwenno Roberts, Sara Jones (C.Ff.I Llanfynydd) a Lois Davies (C.Ff.I Llangadog)

 

Unigolyn Gorau:

Gwenno Roberts, C.Ff.I Llanfynydd

 

 

Adran Ganol

Mr Wyn Thomas oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 2 dîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

C.Ff.I Llanllwni – Betsan Jones, Cathrin Jones a Sioned Howells

 

Unigolyn Gorau:

Sioned Howells, C.Ff.I Llanllwni

 

Adran Hŷn:

Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 7 tîm cryf iawn. Mr Wyn Thomas oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

C.Ff.I Penybont – Mared Evans, Fiona Phillips, Elen Jones a Cadi Evans

 

Unigolyn Gorau:

Elen Jones, C.Ff.I Penybont

 

 

Siarad Cyhoeddus Saesneg:

 

Adran Ddarllen

Miss Angharad Edwards cafwyd y dasg o feirniadu 3 tîm yng nghystadleuaeth y darllen o dan 15. Dyma’r canlyniadau:

 

Tîm buddugol:

C.Ff.I Llangadog – Lois Davies, Abner Evans a Ilan Dafydd

 

Unigolyn Gorau:

Lois Davies, C.Ff.I Llangadog

 

 

Adran Iau

Yng nghystadleuaeth yr Adran Iau i aelodau dan 17, Mrs Jill George oedd â’r dasg o feirniadu, gyda 2 tîm yn cystadlu. Dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

C.Ff.I Llanddarog – Morgan Davies, Rhys Griffiths a Ellis Davies

 

Unigolyn Gorau:

Morgan Davies, C.Ff.I Llanddarog

 

 

Adran Ganol

Miss Kate Miles oedd yng ngofal yr Adran Ganol. Roedd 3 tîm yn y gystadleuaeth yma a dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

C.Ff.I Penybont – Hannah Richards, Daniel O’Callaghan, Caeo Pryce a Lleu Pryce

 

Unigolyn Gorau:

Mari James, C.Ff.I Llangadog

 

 

Adran Hŷn:

Cafwyd cystadleuaeth dda iawn yn y gystadleuaeth yma rhwng 2 dîm cryf iawn. Miss Kate Miles oedd gyda’r dasg o feirniadu a dyma’r canlyniadau:

 

Tîm Buddugol:

Tîm Swyddfa – Angharad Thomas (C.Ff.I Dyffryn Tywi), Ffion Rees (C.Ff.I Llanfynydd) a Lynwen Mathias (C.Ff.I Dyffryn Cothi)

 

Unigolyn Gorau:

Lynwen Mathias, C.Ff.I Dyffryn Cothi

%d bloggers like this: