DYLID cynnal profion Coronafeirws rheolaidd a phwrpasol mewn ysgolion, meddai Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS.
Dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod “yn gwneud synnwyr” i ddefnyddio’r capasiti profi sydd ar gael i helpu i sicrhau bod ein hysgolion yn parhau’n ddiogel i’w hagor yn llawn.
“Os yw’n ddigon pwysig i’n pêl-droediwr, dylai fod yn ddigon pwysig i’n hathrawon, ein myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn ein hysgolion.”
Dangosodd data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos diwethaf cynnydd mewn achosion newydd gan rybuddio fod “Coronafeirws yn dal i gylchredeg yn y gymuned”.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r “unig ffordd o fod yn siŵr o weld y darlun llawn” yw cynnal profion mor eang â phosibl mewn ysgolion. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan nad yw pobl yn aml yn arddangos unrhyw symptomau neu’n arddangos symptomau gwan iawn.
Ar hyn o bryd, yng Nghymru, dim ond aelodau o’r cyhoedd sydd â symptomau Coronafeirws sydd yn cael profion swab, gan eithrio lleoliadau cartrefi gofal.
Ymhlith yr argymhellion o adroddiad diweddar gan fenter Gymdeithas Frenhinol DELVE mae angen “gweithredu trefn fonitro effeithiol…sy’n cynnwys gwyliadwriaeth eang, sy’n gysylltiedig â system profi, olrhain a diogelu effeithiol, a ellir ei chynyddu yn ddigonol ac yn gyflym.” Galwodd Comisiynydd Plant Lloegr i athrawon a disgyblion yn Lloegr gael profion wythnosol yn sgil yr adroddiad.
Bydd pêl-droediwr yn yr Uwch Gynghrair yn derbyn profion ddwywaith yr wythnos drwy gydol misoedd Mai i Orffennaf a disgwylir i brofion rheolaidd barhau pan fydd y gynghrair yn ailgychwyn. Mae’r drefn brofi wedi bod yn effeithiol iawn o ran dod o hyd i achosion positif lle nad oedd y person yn dangos unrhyw symptomau.
Meddai Rhun ap Iorwerth,
“Mae profion wedi bod ar gael i bawb yng Nghymru sy’n arddangos symptomau Coronafeirws ers peth amser. Fodd bynnag, gwyddom fod plant – a llawer o oedolion – yn aml ddim yn arddangos symptomau neu’n yn arddangos symptomau ysgafn iawn. Felly’r unig ffordd o fod yn siŵr o weld y darlun llawn yw defnyddio’r capasiti profi sydd gennym gymaint â phosibl i ddod ag achosion a chlystyrau i’r amlwg.
“Ysgolion yw’r mannau anhysbys newydd. O gofio ei bod mor bwysig iddynt aros ar agor, ac yn ddiogel i bawb ynddynt, mae’n gwneud synnwyr defnyddio’r capasiti profi yng Nghymru i roi sicrwydd i athrawon, rhieni a disgyblion fel bod gennym ddarlun cyflawn o ble y gallai Coronafeirws fod yn cylchredeg.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i bobl ddychwelyd o wyliau i ysgolion, gan fod adroddiadau yn dweud fod mwy o berygl o drosglwyddo’r firws wrth ddod yn ôl o wyliau i leoliadau penodol.
“Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi rhaglen ‘wyliadwriaeth eang’ i ni. Dylent ddechrau mewn ardaloedd lle maent yn gwybod fod Coronafeirws yn cylchredeg, dylent brofi mor eang â phosibl, a dylai’r samplu rheolaidd hwn ddechrau rŵan, wrth i ddisgyblion ddychwelyd i ysgolion.
“Os bernir bod profion rheolaidd yn ddigon pwysig i’n pêl-droediwr, yna dylai fod yn ddigon pwysig i’n hathrawon, ein myfyrwyr a phawb sy’n gweithio yn ein hysgolion.”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m