04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plannu 1,700 o goed ym Mharc Tremorfa

Mae dros 1,700 o goed wedi’u plannu ym Mharc Tremorfa ar gyfer Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC) mewn digwyddiad arbennig i ddathlu statws Caerdydd fel Dinas Bencampwr.

Gwahoddwyd dros 150 o wirfoddolwyr o’r gymuned leol i “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî”, mewn partneriaeth â Trees for Cities a’r QGC, ym Mharc Tremorfa ddydd Sadwrn 12 Chwefror.

Cychwynnodd plant ysgol lleol o Ysgol Gynradd Moorland ac Ysgol Gynradd Gatholig St Alban y plannu cyn y digwyddiad gwirfoddoli, gan blannu 250 o goed ddydd Gwener 11 Chwefror.

Bydd y coed yn helpu i gynyddu gorchudd canopi coed yn sylweddol yn y ddinas ac yn cefnogi cynefinoedd a bwyd ar gyfer bywyd gwyllt lleol.

Mae’r digwyddiad plannu coed hefyd yn cyfrannu at brosiect uchelgeisiol Coed Caerdydd y Cyngor, a fydd yn gweld dros 16,000 o goed yn cael eu plannu ar draws y ddinas eleni, dros 3x yn fwy nag a blannwyd gennym yn 2019.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae gorchudd canopi coed Caerdydd yn tua 2,658 hectar, yn ogystal, mae’r cyngor yn berchen ar 869 hectar o goetir. Hefyd mae cyngor y ddinas yn berchen ar tua 1.4 miliwn o goed unigol. Mae hyn yn cynnwys coed mewn parciau a mannau agored, ar ymylon priffyrdd, ar ystadau tai, ar dir ysgolion, ac o amgylch cyfleusterau cymunedol.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities,a gwnaeth Arglwydd Raglaw De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith, ymuno ag ef a chyflwyno’r darian Dinas Bencampwr i Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas.

Cynghorwyr lleol, aelodau o’r Adran Parciau a’r gymuned leol o ardal y Sblot.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd a Chynghorydd Sblot, y Cyng. Huw Thomas:

“Rwy’n falch iawn bod Caerdydd wedi llwyddo i gyflawni statws Dinas Bencampwr o dan Ganopi Gwyrdd y Frenhines. Mae’n gydnabyddiaeth o’r hyn rydym wedi’i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf a’n cynlluniau gwyrdd ar gyfer y ddinas yn y dyfodol.

“Mae’n glir iawn, o weld nifer y gwirfoddolwyr sydd yma heddiw, pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd ffyniannus i bawb; mae hyn wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf pan ddaeth pawb i ddibynnu ar ein mannau cyhoeddus awyr agored. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant unrhyw ddigwyddiad fel hwn, a hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniad enfawr heddiw, yn enwedig drwy roi o’u hamser ar ddiwrnod gêm y Chwe Gwlad. Mae’n cael ei werthfawrogi’n fawr.

“Bydd y coed newydd hyn yn cynyddu gorchudd canopi coed y Sblot o 1700 ac mae’nun o nifer o fentrau a gynhaliwyd gan y cyngor i gefnogi plannu coed. Mae 16,000 o goed ar draws y ddinas yn swm trawiadol a bydd yn dod â manteision enfawr – gan hybu bioamrywiaeth, gwella ansawdd aer a chael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles ein trigolion a’n hymwelwyr.

“Mae heddiw wedi bod yn enghraifft wych o sut y gallwn wneud gwahaniaeth mawr, gan greu dinas werddach, hapusach ac iachach i bawb ei mwynhau, tra’n cymryd camau breision i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd.”

Dywedodd David Elliott, Prif Weithredwr Trees for Cities:

“Rydym yn falch iawn o ffurfio partneriaeth â Chanopi Gwyrdd y Frenhines a Chyngor Dinas Caerdydd i ddod â manteision amrywiol coed trefol i gymunedau lleol yng Nghaerdydd. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr â thrigolion lleol sy’n torchi llewys i helpu’r ddinas fwyaf yng Nghymru i gyrraedd ei tharged o orchudd 25% ledled y ddinas dros y deng mlynedd nesaf!”

Drwy’r bartneriaeth, rydym yn annog pobl leol i ddod at ei gilydd i blannu coeden ar gyfer y jiwbilî fel etifeddiaeth i wasanaeth y frenhines, gan hefyd greu gwyrddni trefol fel rhan o fenter Coed Caerdydd i wneud Caerdydd yn lle gwyrddach ac iachach i fyw ynddo!”

Mae Trees for Cities hefyd yn gweithio gyda deg ysgol leol yng Nghaerdydd i gysylltu pobl ifanc â natur i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blanwyr coed trefol.

Mae Strategaeth Un Blaned y Cyngor yn cynnwys nod o gynyddu’r gorchudd coed o 18.9% i 25% erbyn 2030. Er mwyn gwneud hyn, mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu rhaglen plannu coed hirdymor ar gyfer y ddinas o’r enw Coed Caerdydd.

Yn ogystal â chynyddu gorchudd canopi Caerdydd, mae Coed Caerdydd hefyd am ysbrydoli trigolion drwy waith cymunedol i ddiogelu coed a chodi ymwybyddiaeth o’u pwysigrwydd. Dysgwch fwy yma:  www.outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth/coed-caerdydd/

Mae Canopi Gwyrdd y Frenhines yn fenter unigryw sy’n gwahodd pobl ledled y Deyrnas Unedig i “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî”. Mae statws Dinas Bencampwr yn cydnabod yr holl waith y mae partneriaid wedi bod yn ei wneud ar draws y ddinas-ranbarth i blannu hyd yn oed mwy o goed lle byddant yn dod â’r budd mwyaf i’n cymunedau a’n hamgylchedd.

  •  

%d bloggers like this: