03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Plannu coed er cof am y rhai a gollwyd i’r pandemig

HEDDIW Mawrth 23  – Diwrnod Cenedlaethol Myfyrdod – bydd Cyngor Sir Fynwy ymysg y sefydliadau ac unigolyn hynny fydd yn oedi i fyfyrio a chofio pawb a fu farw dros y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys y rhai a gollwyd i bandemig COVID-19. Caiff coed a gyflwynwyd er cof amdanynt eu plannu ar safle picnic Hen Orsaf Tyndyrn a’i bencadlys yn Neuadd y Sir, Brynbuga.

Gwahoddwyd staff y cyngor hefyd i gymryd rhan mewn seremoni fer a gaiff ei ffrydio yn fyw gyda munud o dawelwch ganol-dydd.

Yn y Fenni, bydd y cyngor yn dangos golau melyn ar Neuadd y Farchnad yn y dref gyda’r nos ar 23 Mawrth, gan ymuno ag adeiladau pwysig eraill ledled Cymru – cynllun a sefydlwyd gan grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru. Mae aelodau yn annog pobl ar draws y wlad i ‘oleuo Cymru i gofio’.

Dywedodd y Cynghorydd Sheila Woodhouse:

“Ar yr adeg hon o fyfyrdod cenedlaethol, rydym yn meddwl am y rhai a gollodd anwyliaid – aelodau o deuluoedd a chyfeillion y mae eu habsenoldeb wedi cyffwrdd yn ddwfn â phob un ohonom. Fel Cadeirydd Cyngor Sir Fynwy, hoffwn ddiolch i bawb ohonoch am y rhan a fu gennych wrth gadw eich teuluoedd a’ch cymunedau’n ddiogel yn ystod y dyddiau anodd yma.”

Gall preswylwyr Sir Fynwy ymweld â’r coed yn yr Hen Orsaf cyn gynted ag y bydd cyfyngiadau’r cyfnod clo yn caniatáu hynny. Caiff fideo o gyflwyno’r coed ei rannu ar wefan y cyngor a’i sianeli cyfryngau cymdeithasol ar Facebook a Twitter ar ôl y munud cenedlaethol o dawelwch ganol-dydd ar ddydd Mawrth 23 Mawrth.

%d bloggers like this: