04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ple i gadw pellter cymdeithasol yn sgil clwstwr Covid yn Sir Gâr

MAE Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar drigolion ac ymwelwyr i gymryd cyfrifoldeb dros gadw pellter cymdeithasol wrth i glwstwr o achosion Covid-19 gael ei gadarnhau yn y sir.

Mae’r Cyngor yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i reoli nifer o achosion a glustnodwyd drwy’r gweithdrefnau Profi, Olrhain a Diogelu cenedlaethol.

Tarddiad y clwstwr yw noson wobrwyo a gynhaliwyd nos Sadwrn 29 Awst yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach, a hynny’n groes i reoliadau’r coronafeirws.

Hyd yn hyn mae 12 o bobl sy’n gysylltiedig â’r noson wedi cael prawf Covid-19 positif, a bydd yn rhaid i bawb aeth i’r digwyddiad hunanynysu am 14 diwrnod.

Mae olrheinwyr cysylltiadau wrthi’n cysylltu â phawb oedd yno.

Mae hysbysiad cau wedi cael ei gyflwyno i’r person sy’n gyfrifol am y safle, sy’n golygu na all y clwb ailagor am 14 diwrnod o leiaf. Dywedodd y Cyngor ei bod mor bwysig ag erioed i bobl sylweddoli nad yw’r feirws wedi diflannu, ac mae’n annog pobl i wrando ar y cyngor cenedlaethol a chymryd cyfrifoldeb dros gadw eu hunain, ac eraill, yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu’r Cyhoedd: “Nid yw’r feirws wedi mynd, ac oni bai ein bod ni i gyd yn gyfrifol yn yr hyn rydym ni’n ei wneud, byddwn ni nôl yn y sefyllfa ofnadwy honno lle bydd yn rhaid gorfodi rhai busnesau i gau a chyfyngu ar fynediad pobl at wasanaethau.

“Mae angen cadw pellter cymdeithasol, mae angen i bobl a busnesau gydymffurfio â rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu y GIG, ac mae angen i bawb helpu i atal y feirws rhag lledaenu. Trefnwyd y digwyddiad hwn yn groes i’r rheoliadau, heb roi ystyriaeth o gwbl i’r cyhoedd ehangach. Ni fyddwn yn oedi dim yn y dyfodol cyn gweithredu, ac mae hynny’n cynnwys rhoi hysbysiadau cau a hysbysiadau cosb benodedig, os bydd clybiau chwaraeon neu fusnesau yn torri rheoliadau ac yn peryglu iechyd y cyhoedd.”

Ychwanegodd: “Ar adeg pryd y mae pethau’n dechrau gwella o ran y pandemig, nid ydym am ddychwelyd i sefyllfa lle mae’n rhaid cau ein hysgolion, cyfyngu ar ymweliadau â’n parciau, tafarndai, canolfannau ailgylchu a mwy – ond dyma’r risg mae trefnwyr digwyddiadau o’r fath yn ei hachosi yn ein cymunedau.

“Mae digon o gyngor ac arweiniad ar gael gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ar wefannau Sir Gaerfyrddin ac awdurdodau eraill y gallech fod yn ymweld â nhw. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr holl wybodaeth ddiweddaraf gennych chi a’ch bod yn cymryd pob cam angenrheidiol i ddiogelu eich hun ac eraill o’ch cwmpas.”

Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i achosion o Goronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau ein bod yn ymateb i achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yng Nghlwb Criced a Phêl-droed Drefach. Rydym yn rheoli unrhyw glystyrau o’r Coronafeirws yn briodol, gan gynnwys drwy ddarparu cyngor ar atal a rheoli’r haint, a thrwy gefnogi olrhain cysylltiadau lle bo angen.

“Rydym yn atgoffa’r cyhoedd bod ganddyn nhw rôl hollbwysig o ran atal lledaeniad Coronafeirws. Gallan nhw wneud hyn drwy lynu wrth y canllawiau cadw pellter cymdeithasol bob amser, sef cadw dau fetr i ffwrdd wrth eraill, golchi dwylo’n rheolaidd, a gweithio gartref os oes modd.”

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni i gyd yn glynu wrth y mesurau cadw pellter cymdeithasol er mwyn diogelu ein cymunedau. Y peth pwysicaf i’w gofio yw hunanynysu pan mae gofyn gwneud hynny, cadw 2 fetr oddi wrth eraill sydd y tu allan i’ch swigen deuluol, lleihau eich cysylltiadau lle gallwch, osgoi mannau lle mae pobl yn ymgynnull, a golchi eich dwylo’n rheolaidd.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae hyn yn cynnwys olrhain cysylltiadau posibl. Gofynnir i rai pobl gymryd prawf, ond ni fydd angen i eraill wneud hynny. Yn hytrach gofynnir iddyn nhw hunanynysu a threfnu prawf os byddan nhw’n cael symptomau. Atgoffir pob aelod o’r cyhoedd, os byddan nhw’n cael symptomau – sef gwres uchel, peswch parhaus neu golli synnwyr blasu neu arogli – dylen nhw hunanynysu’n syth a threfnu prawf.”

Prif symptomau’r coronafeirws yw:

gwres uchel: mae hyn yn golygu eich bod yn teimlo’n dwym pan fydd rhywun yn cyffwrdd â chi ar eich brest neu’ch cefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd).
peswch parhaus newydd: mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 pwl o beswch neu fwy mewn 24 awr (os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
colli eich gallu i arogli neu flasu neu hynny’n newid: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli na blasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer
Mae gan y rhan fwyaf o bobl sydd â’r coronafeirws o leiaf un o’r symptomau hyn.

Gall aelodau symptomatig o’r cyhoedd wneud cais am brawf drwy ymweld â gwefan Llywodraeth Cymru a dewis naill ai prawf mewn canolfan profi drwy ffenest y car neu archebu pecyn profi gartref. Gall y rhai sydd heb fynediad digidol wneud cais am brawf drwy ffonio 119 am ddim (7am-11pm) a gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

%d bloggers like this: