04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

“Pleidlais dros obaith yw pleidlais dros Blaid Cymru” medAdam Price

MAE Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi nodi noswyl Etholiad y Senedd trwy ddadlau bod “pleidlais dros Blaid yn bleidlais dros obaith” wrth i Gymru baratoi i fynd i’r polau.

Dywedodd Adam Price fod cred Plaid Cymru yng ngallu Cymru i ddatrys ei phroblemau ei hun yn wahanol iawn i Lafur a’r Torïaid y mae eu hagwedd nhw bob amser yn rhoi San Steffan gerbron Cymru.

Ychwanegodd Arweinydd Plaid Cymru fod “rhaglen drawsnewidiol llywodraeth” ei blaid yn adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i ailadeiladu economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar ôl pandemig Covid.

Wrth siarad ar drothwy Etholiad y Senedd, dywedodd Adam Price:

“Yn yr etholiad hwn yn fwy nag unrhyw un arall, mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais dros obaith.

“Rydyn ni’n gwrthod credu bod unrhyw beth israddol am Gymru sy’n golygu na allwn ni ffynnu fel cenhedloedd annibynnol eraill ledled y byd.

“Mewn cyferbyniad ag agwedd anobeithiol Llafur a’r Torïaid a’u penderfyniad i roi San Steffan gerbron Cymru bob tro, rydym yn credu yng ngallu ein cenedl i ddatrys ei phroblemau ei hun.

“Mae pandemig Covid wedi gofyn gymaint ohonom mewn cymaint o ffyrdd. Mwy o garedigrwydd, mwy o amynedd, mwy o gryfder, a mwy o arloesi.

“Nawr yw’r amser i ddangos mwy o uchelgais nag erioed o’r blaen i sicrhau ein bod yn cwrdd â’r her o ailadeiladu ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen drawsnewidiol o’r fath i’r llywodraeth adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i lwyddo.

“O greu hyd at 60,000 o swyddi a darparu 50,000 o gartrefi cyhoeddus, o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim o 24 mis, ac o hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen y GIG a thorri treth y cyngor ar gyfer yr aelwyd arferol, mae gweledigaeth Plaid Cymru yn rhoi gobaith.

“Gobaith am ddyfodol gwell, dyfodol tecach, a dyfodol lle gall ein cenedl a phawb sy’n ei galw’n gartref gyflawni eu potensial.

“Nid oes unrhyw beth na allwn ei gyflawni gyda’n gilydd, a gall y siwrnai honno ddechrau yfory gyda phleidlais dros Plaid Cymru, a pleidlais dros obaith.”

%d bloggers like this: