04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pobl Cymru yn camel eu deal byng nghanol gwrthdaro geiriol danu lywodraeth

MAE’r llanast £175m o gyllid – dryswch ynglŷâ chostau byw yn amlygu’r angen am eglurder ariannol, meddai Plaid Cymru.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros gyllid, Llŷr Gruffydd AS,

“Mae dyfroedd tywyll y trefniant ariannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru wedi cael eu codi unwaith eto. Mae’n ymddangos bod dryswch cyson ynghylch cyllid canlyniadol i Gymru, sy’n amlygu’r gwendidau yn y setliad datganoli presennol.

Ar Ddydd Iau 3 Chwefror, cyhoeddodd y Canghellor, Rishi Sunak, ad-daliad treth gyngor ar gyfer Lloegr, ac mewn ymateb i gydweithiwr as o Gymru, ychwanegodd “Gallaf gadarnhau y bydd y Gweinyddiaeth Cymreig yn derbyn tua £175 miliwn mewn cyllid canlyniadol Barnett.”

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Yn dilyn y cyhoeddiad, cyhoeddodd y Ceidwadwyr Cymreig ddatganiad i’r wasg lle gwnaethant awgrymiadau ar gyfer yr hyn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r “£175m newydd” ar ei gyfer.

Dydd Mercher 9 Chwefror, fe wnaeth y Prif Weinidog Mark Drakeford drydar am y ffigwr £175m, gan ddweud “rydym wedi dysgu nad oes arian ychwanegol i Gymru.”

Cafodd y trydariad ei dadlai ar unwaith gan Simon Clark AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, a ddywedodd “Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £180m o gyllid canlyniadol Barnett o ganlyniad i ad-daliad y Dreth Gyngor a gyhoeddwyd gan y Canghellor.”

Meddai Llŷr Gruffydd:

“Er gwaethaf nifer o geisiadau am fwy o dryloywder ynghylch y broses hon, mae’n ymddangos bod llywodraeth San Steffan yn fodlon i Gymru orfod chwarae gêm ddyfalu gyson o ran cyllid.

“O ran delio â chostau argyfwng byw, mae pobl Cymru yn haeddu gwell na chael eu dal yng nghanol gwrthdaro geiriol ar Twitter rhwng y ddwy lywodraeth.”

%d bloggers like this: