03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn creu ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc

RHWNG mis Medi a mis Tachwedd 2021, bu pobl ifanc o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ceredigion yn creu prosiect newydd mewn partneriaeth ag Arad Goch, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Action for Children ac Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion. Bu’r bobl ifanc a’r sefydliadau hyn yn cydweithio i greu ffilm fer mewn ymgais i addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc.

Mae Carers Trust UK yn diffinio Gofalwyr Ifanc fel “rhywun o dan 18 oed sy’n helpu i ofalu am rywun yn eu teulu, neu ffrind, sy’n sâl, yn anabl, â chyflwr iechyd meddwl neu’n gaeth i gyffuriau neu alcohol.” Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn nodi bod tua 30,000 o ofalwyr o dan 25 oed yng Nghymru, ac mae bod yn Ofalwr Ifanc yn gallu cynnwys cyfrifoldebau megis; tasgau ymarferol fel coginio, glanhau a siopa, gofal personol fel helpu rhywun i godi o’r gwely, casglu meddyginiaeth neu ofalu am frodyr a chwiorydd.

Bu’r bobl ifanc yn gweithio gydag Arad Goch i greu stori a sgript, a mynd ati i ffilmio golygfeydd o amgylch Aberystwyth, cyn golygu’r cynnwys er mwyn creu ffilm fer â’r teitl ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn Ofalwr Ifanc?’ a fydd yn cael ei lansio yn 2022.

Cynhyrchwyd y ffilm gan bobl ifanc o dan arweiniad Arad Goch, cwmni theatr lleol. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan ddisgyblion drama lleol a gymerodd rhan yn y cynhyrchiad fel actorion ifanc. Mae’r ffilm fer yn dilyn taith person ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu, gyda’r nod o addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r pwnc.

Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, roedd yn rhaid cynnal y gwaith paratoi i gyd ar-lein. Rydym yn gobeithio trefnu lansiad rhithiol ar gyfer y ffilm yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Carwyn Blayney, cyfarwyddwr y ffilm:

“Roedd y prosiect yn un uchelgeisiol iawn, yn enwedig ceisio ffilmio cymaint o ddeunydd mewn un diwrnod, ond roedd y gofalwyr ifanc i gyd, a’r actorion ifanc ynghlwm â’r prosiect yn hollol wych. Cawson ni ddiwrnod grêt o ffilmio – diwrnod llawn dop, a’r pobl ifanc i gyd wedi delio â’r llwyth gwaith yn grêt. Roedd y gofalwyr ifanc yn dda iawn i rannu syniadau ar ein cyfarfodydd teams yn y misoedd yn arwain tuag at y diwrnod ffilmio, ac yn amyneddgar iawn wrth i ni geisio trefnu prosiect yng nghanol pandemig. Criw hynod dalentog o bobl ifanc!”

Meddai Catherine Huges, Pencampwr Gofalwyr ac Aelod Cabinet Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant:

“Gall bod yn Ofalwr Ifanc gael effaith fawr ar y pethau sy’n bwysig i dyfu i fyny, ac mae cyfrifoldebau Gofalwyr Ifanc yn amrywio’n fawr. Mae’n bwysig iawn ein bod yn codi ymwybyddiaeth a datblygu ein dealltwriaeth o Ofalwyr Ifanc ble bynnag sy’n bosib, ac mae’r ffilm fer hon yn ffordd wych o helpu i wneud hyn. Llongyfarchiadau i’r bobl ifanc fu’n rhan o’r prosiect hwn ac am greu ffilm mor bwerus a fydd yn cael ei lansio eleni.”

%d bloggers like this: