04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pobl ifanc i fynegi eu barn ar gynhyrchion mislif am ddim

MAE pobl ifanc yn cael eu hannog i fynegi eu barn ar sut i wario’r cylch cyllid nesaf ar gyfer cynhyrchion mislif.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael Grant Urddas Mislif gwerth £140,301 gan Lywodraeth Cymru, ac mae Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn awyddus i gael barn merched ifanc ar ba gynhyrchion sydd eu hangen. Cafodd yr arian ei wario ar gynhyrchion mislif traddodiadol fel padiau a thamponau y llynedd.

Eleni, mae’r Cyngor yn ystyried cynnig mwy o ddewis sy’n llai niweidiol i’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys ‘moon cups’, pants mislif a phadiau lliain y gellir eu hailddefnyddio.

Gall pobl fynegi eu barn drwy gwblhau gwasanaeth ar-lein tan 13 Ionawr.

Cafodd y prosiect #TlodiMislifSirGâr ei lansio ym mis Ebrill gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, gyda chymorth gwasanaeth ieuenctid ac adran addysg y Cyngor a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr Tlodi Mislif Sir Gaerfyrddin: “Eleni, rydym yn cynnig mwy o ddewis i bobl o ran y cynhyrchion y maent yn dymuno eu defnyddio. Bydd defnyddio cynifer o gynhyrchion eco-gydnaws ag y gallwn yn helpu’r amgylchedd. Byddwn yn annog cynifer o bobl ifanc â phosibl i gwblhau’r arolwg ar-lein a rhoi gwybod inni am yr hyn sy’n addas iddynt.”

Mae bocsys o gynhyrchion mislif am ddim wedi cael eu dosbarthu i bob un o’r 97 o ysgolion cynradd a’r 12 o ysgolion uwchradd ledled y sir, yn ogystal â cholegau, grwpiau ieuenctid a sefydliadau trydydd sector.

Nod y prosiect yw sicrhau na fydd merched yn colli addysg oherwydd nad oes ganddynt eitemau mislif digonol yn ystod eu mislif, a newid ymagwedd pobl tuag at y mislif er mwyn iddo beidio â bod yn bwnc ‘tabŵ’.

Dywedodd Amber Treharne, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 15 oed ac yn hanu o Borth Tywyn: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar ran newydd y prosiect #TlodiMislifSirGâr! Mae ein syniad gwreiddiol, sef rhoi cynhyrchion mislif am ddim i’r holl ysgolion, grwpiau ieuenctid ac ati, wedi bod yn llwyddiant ysgubol felly rwy’n methu aros gweld beth fydd yn digwydd nesaf. Mae’n hanfodol bwysig ein bod yn ceisio gwarchod ein hamgylchedd, felly, mae rhoi cynhyrchion mislif ecogyfeillgar y gellir eu hailddefnyddio i ferched ifanc yn sicrhau y gallwn fod yn fwy ‘gwyrdd’, gan gadw at ein nod o sicrhau bod pob merch a menyw ifanc yn y sir yn gallu cael cynhyrchion mislif heb unrhyw rwystrau ariannol.”

%d bloggers like this: