03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Portreadu beirdd a llenorion Ceredigion yn yr Eisteddfod

MAE saith portread newydd sbon wedi cael eu llunio’n arbennig ar gyfer wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Ngheredigion eleni.

Penderfynodd Pwyllgor Llên Eisteddfod Ceredigion ofyn i’r artist Malcolm Gwyon o Flaenporth ddarlunio darnau gwreiddiol o saith llenor o Geredigion, sef Caryl Lewis, y Prifardd Dic Jones, Hywel Teifi Edwards, Lyn Ebenezer, Lleucu Roberts, Menna Elfyn a T Llew Jones.

Mae’r arlunydd Malcolm Gwyon yn arbenigo mewn paentio portreadau, tirweddau ac eiconau Cymreig ac yn falch o gael cyfrannu at y prosiect cyffrous hwn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth amdano ef a’i waith yma: Malcolm Gwyon

Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi noddi’r portreadau, a byddant yn cael eu cyflwyno i ysgolion uwchradd y sir wedi’r brifwyl i gael eu harddangos yn eu cartref parhaol.

Dadorchuddiwyd y portreadau mewn lansiad arbennig ddydd Sul, 31 Gorffennaf 2022, ym Mhentre’ Ceredigion a byddant yn cael eu harddangos yno trwy gydol yr wythnos. Galwch heibio i’w gweld.

Dywedodd y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Cadeirydd y Pwyllgor Llên:

“Diolch i’r Pwyllgor Llên ac i Malcolm Gwyon am eu gwaith a’u gweledigaeth. Credwn y dylwn ddathlu’r cyfoeth o dalent a gynhyrchwyd gan y sir hon. Mae’r prosiect yma’n waddol arbennig felly; un a fydd yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o feirdd a llenorion yng Ngheredigion.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid:

“Mae hwn yn brosiect neilltuol i dynnu sylw at rai o lenorion Ceredigion a dathlu traddodiad llenyddol arbennig y sir. Gobeithio bydd gosod y portreadau yn ein hysgolion yn ysbrydoli ein pobl ifanc i fwynhau diwylliant llenyddol a hefyd i werthfawrogi, cymryd rhan ac elwa o’n byd celfyddydol ehangach.”

Ar ôl wythnos yr Eisteddfod, bydd y gweithiau gwreiddiol yn cael eu gosod mewn ysgol uwchradd yn y sir lle mae gan y llenor dan sylw gysylltiad â’r ysgol neu’r ardal honno.

Bydd darlun Hywel Teifi Edwards yn cael cartref yn Ysgol Uwchradd Aberaeron; y Prifardd Dic Jones yn Ysgol Uwchradd Aberteifi; Caryl Lewis yn Ysgol Uwchradd Penglais; Lleucu Roberts yn Ysgol Gyfun Penweddig; Lyn Ebenezer yn Ysgol Henry Richard; Menna Elfyn yn Ysgol Bro Pedr; a T Llew Jones yn Ysgol Bro Teifi.

%d bloggers like this: