04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prawf COVID ar gael i bob disgybl ysgol gyfun

BYDD profion llif unffordd rheolaidd yn cael eu cynnig i holl ddisgyblion ysgolion cyfun Abertawe cyn bo bir nawr eu bod wedi dychwelyd ar ôl gwyliau’r Pasg.

Yn flaenorol, dim ond y disgyblion hŷn oedd yn cael eu profi ond yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’r cynnig yn cael ei ymestyn.

Cyn bo hir bydd disgyblion yn gallu casglu profion o’u hysgolion fel y gallant brofi eu hunain gartref.

Bydd y profion yn cynnwys cyfarwyddiadau llawn a’r hyn y mae angen iddynt wneud ar ôl iddynt brofi eu hunain. Diben y prawf yw nodi a oes gan ddisgybl COVID-19 neu a yw disgybl yn cario’r feirws, fel y gellir cymryd y camau priodol yn unol â hynny.

Disgwylir canlyniad o fewn oddeutu 30 munud.

Rhieni a’u plant sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn profi eu hunain ac yn adrodd amdanynt.

Meddai Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Helen Morgan-Rees:

“Mae’r profion hyn yn parhau i fod yn rhan o ystod o fesurau sydd ar waith i helpu i reoli ymlediad y feirws.

“Os yw disgybl yn dewis cynnal y prawf ei hun, yna mae’n bwysig iawn bod unrhyw ganlyniadau positif yn cael eu hadrodd a bod gofynion hunanynysu yn cael eu bodloni.”

Atgoffir disgyblion ysgolion uwchradd hefyd i wisgo mwgwd yn yr ysgol os na allant gadw’r pellter gofynnol oddi wrth eraill.

Rhaid i’r disgyblion wisgo gorchuddion wyneb tair haen a rhoddwyd tri mwgwd o ansawdd da i’r disgyblion y gellir eu golchi hyd at 50 gwaith.

Mae Mrs Morgan-Rees yn annog rhieni a disgyblion i helpu cadw ysgolion yn ddiogel drwy ddilyn holl fesurau diogelwch COVID-19.

Meddai:

“Mae’n hanfodol bod ein plant a’n rhieni’n parhau i gadw at yr holl reolau o dan ein haen o gyfyngiadau er mwyn galluogi llacio rheolau ymhellach.

“Mae’r rhain yn cynnwys rhieni a gofalwyr yn cadw pellter wrth ollwng a chasglu plant. Peidiwch ag ymgasglu mewn grwpiau a pheidiwch â stopio am sgwrs.

“Hoffwn ofyn i rieni wneud yn siŵr na yw plant yn cymysgu y tu allan i’r ysgol, gan gynnwys mewn hwylnosau neu bartïon.

“Hefyd, peidiwch ag anfon eich plant i’r ysgol os nad ydynt yn teimlo’n dda, hyd yn oed os nad oes ganddynt brif symptomau Coronafeirws.

“Mae ysgolion mor ddiogel ag y gallant fod felly parhewch i chwarae eich rhan i atal ymlediad y feirws, mae ffigurau’n parhau i wella ond nid yw’r feirws wedi diflannu.”

%d bloggers like this: