04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prif Swyddog Nyrsio yn croesawu nyrsys rhyngwladol newydd i Gymru

HEDDIW ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys (12 Mai) mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka, wedi cwrdd â rhai o’r nyrsys newydd o bob cwr o’r byd sydd wedi dod i weithio yn GIG Cymru.

Mae nyrsys a hyfforddwyd yn rhyngwladol wedi bod yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd ers ei sefydlu ym 1948, ac maent yn parhau i chwarae rhan hanfodol.

Disgwylir i fwy na 400 o nyrsys a gaiff eu recriwtio’n rhyngwladol ddod i weithio yng Nghymru eleni drwy raglen a drefnir yn ganolog.

Heddiw, ymunodd Sue  â Phrif Swyddogion Nyrsio eraill y Deyrnas Unedig i lansio’r ymgyrch Yma am Fywyd, sy’n tynnu sylw at sgiliau, gwybodaeth a phroffesiynoldeb nyrsys a bydwragedd ac sydd hefyd yn ceisio denu mwy o bobl i ymuno a’r proffesiwn.

Dywedodd Sue:

“Mae cadw, denu, recriwtio, datblygu a hyfforddi yn allweddol i sicrhau bod gennym y gweithlu nyrsio sydd ei angen arnom ar gyfer ein Gwasanaeth Iechyd. Yn ogystal â recriwtio drwy ein hymgyrch farchnata Hyfforddi, Gweithio, Byw rydyn ni wedi sicrhau cynnydd o 69% yn nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf.

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys yn gyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae nyrsys yn ei wneud pob dydd ar draws Cymru ac i ddangos y gall fod yn broffesiwn gwerth chweil.”

Heddiw, cafodd y Prif Swyddog Nyrsio gyfle i gwrdd â phump o’r nyrsys rhyngwladol sydd newydd ymuno â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Roedd cwrdd â nhw yn eu hwythnos gyntaf yn brofiad arbennig i Sue, a ymunodd â’r GIG fel nyrs yn 1999 ar raglen ryngwladol debyg gan ymuno â’r tîm yn Ysbyty Brenhinol Sunderland.

Ychwanegodd Sue:

“Roedd yn brofiad arbennig iawn cael cwrdd â’r nyrsys newydd heddiw, yn enwedig gan i minnau ymuno â’r GIG mewn ffordd debyg. Rwy’n gwybod byddant yn llawn cyffro am eu cyfleoedd newydd, ac rwy’n dymuno’n dda iddyn nhw yn eu gyrfa a’u bywyd newydd yng Nghymru. Rwy’n gwybod o brofiad uniongyrchol y byddan nhw’n cael croeso ardderchog yn GIG Cymru, gan fy mod innau wedi cael pob croeso ers ymuno fel Prif Swyddog Nyrsio y llynedd.”

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a GIG Cymru i roi’r rhaglen recriwtio ryngwladol hon ar waith. Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i gynnal safonau moesegol mewn recriwtio rhyngwladol, yn unol â chod ymarfer byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd.

Bydd Yma am Fywyd yn tynnu sylw at ymrwymiad rhyfeddol nyrsys a bydwragedd i’w proffesiynau – sy’n ymrwymiad gydol oes yn aml – yn ogystal ag edmygedd mawr y cyhoedd tuag atynt. Mae arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar yn dangos bod parch mawr i nyrsys a bydwragedd, ac mae COVID-19 wedi rhoi mwy o amlygrwydd nag erioed i’r byd nyrsio a bydwreigiaeth.

Dywedodd Sue:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn lansio Yma am Fywyd, gan fod nyrsys a bydwragedd yn chwarae rhan hanfodol mewn iechyd a gofal ac mae’n bwysig ein bod yn tynnu sylw at bopeth y maen nhw’n ei wneud. Fe wyddom fod nyrsys a bydwragedd yn uchel eu parch ond rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod pobl yn deall y ddau broffesiwn yn llawn a bod y ddau’n cael y gydnabyddiaeth lawn y maent yn ei haeddu.

Mae nyrsys a bydwragedd wedi chwarae rhan ganolog yn ystod y pandemig COVID-19 a’r rhaglen frechu. Mae hi wir yn fraint cael bod yn Brif Swyddog Nyrsio Cymru, gan weithio gyda nyrsys a bydwragedd bob dydd a gweld yn uniongyrchol y gofal a’r gefnogaeth anhygoel sy’n cael eu rhoi i bobl Cymru.”

Meddai Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i nyrsys ym mhob cwr o Gymru. Diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi’i wneud yn ystod y pandemig, ac yn parhau i’w wneud wrth inni geisio adfer yn sgil COVID-19.

Rwyf hefyd yn estyn croeso Cymreig cynnes i’r nyrsys sydd newydd eu recriwtio ac sy’n ymuno â GIG Cymru. Mae’n wych eu bod wedi dewis Cymru fel cartref newydd ac wedi dod i ofalu am bobl y wlad hon. Bydd mwy na 400 o nyrsys rhyngwladol sydd newydd gael eu recriwtio yn ymuno â ni eleni ac fe fyddan nhw’n chwarae rhan allweddol wrth i ni edrych tuag at y dyfodol ar ôl y pandemig.

Mae recriwtio dramor yn un o amrywiaeth o gamau rydym yn eu cymryd i gefnogi’r gweithlu iechyd a gofal ledled Cymru wrth i ni ddelio ag effaith barhaus y pandemig. Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi’n ddiweddar ein bod yn estyn y fwrsariaeth ac mae’r Prif Swyddog Nyrsio wedi cyhoeddi ei blaenoriaethau a’i gweledigaeth gyfunol ar gyfer y proffesiynau, sy’n cynnwys cefnogi a chadw ein gweithlu yn ogystal â denu pobl i’r proffesiynau drwy ystod o lwybrau hyblyg.”

%d bloggers like this: