03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prif Weinidog Cymru annog pobl Cymru gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gylch gorchwyl yr Ymchwiliad Covid-19 ar gyfer y DU

MAE Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi cylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad
heddiw.

Ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill cyn cyhoeddi’r cylch gorchwyl drafft.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau cyfunol i Brif Weinidog y DU i sicrhau y bydd profiadau pobl yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu’n briodol ac yn drylwyr yn yr
ymchwiliad.

Bydd hyn yn sicrhau bod y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn ystod y pandemig yn cael eu harchwilio’n briodol gan dîm yr ymchwiliad.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei arwain gan gadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Mae’r pandemig wedi cyffwrdd â’n bywydau i gyd mewn gwahanol ffyrdd ac rwy’n annog pawb i gymryd rhan yn y broses hon a rhoi eu hadborth.

“Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr y grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice. Cafodd eu profiadau a’u sylwadau eu hadlewyrchu’n uniongyrchol hefyd yn ein sylwadau i’r Prif Weinidog am y cylch
gorchwyl.

“Rwy’n gryf o blaid ymchwiliad annibynnol ac rwyf bob amser wedi credu mai’r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy ymchwiliad ledled y DU dan arweiniad barnwr.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r ymgynghoriad i sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael gwrandawiad priodol gan yr ymchwiliad.

%d bloggers like this: