03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prif Weinidog Cymru dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

BYDD y Prif Weinidog yn dathlu 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru gydag ymweliad i gwrdd â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw Mai 11 2022.

Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd sy’n dathlu Llwybr Arfordir Cymru drwy gydol 2022, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosodiadau celf.

Ers ei agor yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun fel esiampl o harddwch naturiol ein cenedl.

Mae’r llwybr 870 milltir yn tywys cerddwyr ar hyd arfordir prydferth Cymru, gan fynd heibio cant o draethau ac un ar bymtheg o gestyll.

Gofynnodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, i Huw Irranca-Davies, AS Ogwr, gynnal adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru.

Sefydlwyd grŵp bach, o’r byd academaidd a’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i gynnal yr adolygiad.

Myfyriodd y Grŵp ar y llwyddiannau allweddol dros y ddegawd ddiwethaf a nododd sut i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae eu hadroddiad wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.

Mae’r adolygiad yn cydnabod gwerth a heriau posibl Llwybr Arfordir Cymru. Mae’n cynnwys 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth ddatblygu ei dull strategol o ymdrin â’r llwybr yn y dyfodol.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae llwybr yr arfordir yn un o ogoniannau Cymru ac yn un o lwyddiannau mwyaf datganoli.

Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â rheoli’r llwybr. Yn enwedig y staff a’r gwirfoddolwyr, sydd allan ym mhob tywydd, yn gweithio’n galed i gynnal y llwybr i safonau mor uchel.

Pe bai’n rhaid i mi ddewis fy hoff ddarn o’r llwybr, byddai’r gyfran rhwng Pentywyn ac Amroth yn dod yn agos: gan ddechrau yn fy sir enedigol, sir Gaerfyrddin, a dod i ben yn Sir Benfro. Efallai nad dyma’r rhan fwyaf adnabyddus o’r llwybr, ond mae’n cynnig amrywiaeth enfawr: rhai dringfeydd heriol, amrywiaeth eithriadol o flodau, cilfachau cudd a digon o ddiddordeb hanesyddol”.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar lwyddiannau’r deng mlynedd cyntaf fel y gall mwy o bobl fwynhau’r llwybr, o fwy o gefndiroedd, yn haws, a chyda mwy o fanteision i gymunedau lleol, busnesau a’r amgylchedd.”

 

%d bloggers like this: