04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi bod cyfyngiadau symud Cymru i barhau ac yn datgan cynlluniau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol | First Minister announces Welsh lockdown to continue & sets out back to school plans

HEDDIW, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd cyfyngiadau symud lefel rhybudd pedwar yn parhau yng Nghymru am y tair wythnos nesaf. Er bod y sefyllfa yng Nghymru yn gwella, rhaid i’r cyfyngiadau symud barhau am dair wythnos arall er mwyn rhoi cyfle i’r GIG adfer.

Bydd hefyd yn nodi y gall y dysgwyr ieuengaf mewn ysgolion cynradd ddechrau dychwelyd i’r ysgol ar ôl hanner tymor mis Chwefror, os bydd cyfraddau’r coronafeirws yn parhau i ostwng.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid addysg ar ddychwelyd fesul cam a hyblyg i’r ysgol ar ôl 22 Chwefror, os bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i wella. Mae cyfraddau’r coronafeirws ledled Cymru wedi gostwng yn is na 200 o achosion am bob 100,000 o bobl am y tro cyntaf ers dechrau mis Tachwedd. Hefyd, bob dydd, mae miloedd yn rhagor o bobl yn cael eu dos cyntaf o frechlyn Covid-19 – mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod bron i 11% o’r boblogaeth wedi cael eu brechu.

The First Minister will today confirm alert level four lockdown restrictions will remain in place in Wales for the next three weeks. While the situation in Wales is improving, lockdown restrictions must continue for another three weeks to allow the NHS to recover.

He will also indicate that the youngest learners in primary school could begin returning to school after the February half term, if rates of coronavirus continue to fall.

The Welsh Government will work with schools and education partners on a phased and flexible return to school after 22 February, if the public health situation continues to improve. Rates of coronavirus across Wales have fallen below 200 cases per 100,000 people for the first time since early November. And every day, thousands more people receive their first dose of the Covid-19 vaccine – the latest figures show almost 11% of the population have been vaccinated.

%d bloggers like this: