03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prif Weinidog i drafod yr argyfwng costau byw ac ynni adnewyddadwy yn Fforwm Iwerddon-Cymru

BYDD Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn cyfarfod â Simon Coveney, Gweinidog Iwerddon dros Faterion Tramor yn ail gyfarfod Fforwm Iwerddon-Cymru.

Yn y digwyddiad deuddydd hwn, yn Nulyn a Cork, bydd trafodaethau yn cael eu cynnal ynghylch yr argyfwng costau byw pan fydd y Gweinidogion yn rhannu eu dulliau o fynd ati i gefnogi pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Maes arall a fydd hefyd yn cael lle amlwg yn y trafodaethau yw newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy. Mae ynni gwynt ar y môr yn cael ei ystyried gan y ddwy lywodraeth yn gyfle pwysig i wella diogelwch ynni.

Bydd y trafodaethau hefyd yn cylchdroi o amgylch porthladdoedd a rheoli ffiniau wrth i Lywodraeth Cymru weithio i ddod o hyd i atebion ymarferol i’r heriau niferus yn sgil Brexit.

Bydd Fforwm Iwerddon-Cymru yn gyfle i barhau i godi proffil Cymru gydag arweinwyr busnes, academyddion a phartneriaid diwylliannol yn Iwerddon, ac i gadarnhau unwaith yn rhagor ymrwymiad Cymru i gydweithio ymhellach ar raglenni a phrosiectau.

Bydd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi a Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig yn chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau ynghyd â’r Gweinidog Heather Humphreys, y Gweinidog Michael McGrath a’r Gweinidog Dara Calleary, a fydd yn cynrychioli Llywodraeth Iwerddon.

Ym mis Mawrth 2021, llofnododd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon Ddatganiad a Rennir a Chynllun Gweithredu ar y Cyd a oedd yn ymrwymo’r ddwy weinyddiaeth i gryfhau’r cysylltiadau gwleidyddol ac economaidd rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

“Dyma’r ail dro i Fforwm Iwerddon-Cymru gael ei gynnal, ac rydw i wrth fy modd o gael teithio i Iwerddon i’w gyd-gadeirio, gan adeiladu ar lwyddiant y fforwm agoriadol yng Nghymru y llynedd.

“Mae’n darparu llwyfan i barhau i gryfhau ein perthynas a chyflawni yn erbyn y Datganiad a Rennir a’r Cynllun Gweithredu ar y Cyd a gafodd eu lansio gennyf i a’r Gweinidog Coveney ym mis Mawrth y llynedd.

Rydw i’n falch bod Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Materion Gwledig yn ymuno â mi ac o gael y cyfle hefyd i ymweld â Dulyn a Cork, gan gyfarfod â phobl sy’n cyd-weithio ar brosiectau mewn nifer o sectorau ar draws Cymru ac Iwerddon”.

%d bloggers like this: