04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prifysgol Abertawe yn help disgyblion i dynnu sylw at fioburfa

MAE grŵp o ddisgyblion wedi bod yn dysgu am ffordd newydd o ddefnyddio allyriadau carbon gwastraff, yn ogystal â chreu eu ffilm eu hunain i ledaenu’r neges am y prosiect cyffrous.

Gan weithio gydag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, bu disgyblion blwyddyn 9 Ysgol Bae Baglan yn archwilio manteision y fioburfa algâu arloesol ym mhurfa nicel Vale yng Nghlydach yng Nghwm Tawe.

Gwnaeth staff o dîm Canolfan ar gyfer Ymchwil a Hyfforddiant mewn Treftadaeth (CHART) y Brifysgol a’r gwneuthurwr ffilmiau Jamie Panton helpu’r disgyblion i greu ffilm ddogfen fer am y fioburfa a sut mae’n defnyddio carbon deuocsid gwastraff er mwyn helpu i dyfu algâu y gellir eu defnyddio i helpu i fwydo anifeiliaid a thyfu bwyd.

Mae’r disgyblion yn dweud bod y prosiect yn ddifyr iawn wrth iddo roi dealltwriaeth werthfawr ynghylch sut mae gwyddonwyr yn datblygu ffyrdd o effeithio’n gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd.

Meddai un o’r gwneuthurwyr ffilm ifanc:

“Rwy’n teimlo’n fwy hyderus am ddyfodol y ddynolryw oherwydd bod y bobl hyn yn ceisio helpu’r amgylchedd drwy dyfu algâu.

Mae’r prosiect hwn wedi rhoi gobaith i mi y gallwn ni drwsio ein byd.”

Datblygwyd y fioburfa gan ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni yn y Brifysgol fel rhan o brosiect mwy o’r enw RICE (Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol), a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, drwy Lywodraeth Cymru.

Yn eu ffilm, rhoddodd y myfyrwyr ddisgrifiad llawn o’r broses a ddefnyddir yn Vale, ochr yn ochr â’u myfyrdodau ar y ffordd y mae gwyddoniaeth arloesol o’i bath yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ar ôl cael hyfforddiant ynghylch sut i wneud ffilm ddogfen, recordiodd y disgyblion amrywiaeth o olygfeydd ar y safle, yn ogystal ag ysgrifennu eu cwestiynau eu hunain ar gyfer eu cyfweleion, sef rheolwr technegol Vale, Peter Martin, a Dr Thomas Ainscough o’r Brifysgol, a ddatblygodd y fioburfa.

Esboniodd Eira Rowe, o brosiect RICE, fod dod o hyd i ffyrdd trawiadol o gyfleu ymagweddau newydd at liniaru effaith newid yn yr hinsawdd yn sylfaenol i waith y prosiect.

Meddai: “Mae adrodd straeon yn elfen bwysig yn hyn o beth. Mae galluogi’r myfyrwyr i ymweld â’n huned arddangos algâu yn Vale, a fydd yn adnabyddus i lawer o bobl fel y Mond yng Nghlydach, i gwrdd a chyfweld â’n gwyddonwyr wedi rhoi optimistiaeth go iawn iddynt am y dyfodol, a gobeithio y byddan nhw’n meddwl am yrfaoedd yn y dyfodol ym maes gwyddoniaeth lle byddan nhw eu hunain yn gallu gwneud gwahaniaeth.”

Meddai’r athrawes gwyddoniaeth Kelly Jones:

“Cafodd y disgyblion brofiad bendigedig. Roedden nhw wrth eu boddau i fod yn rhan o’r prosiect. Mae’n wych gwybod bod hyn ar stepen ein drws.”

Dywedodd Dr Tracy Breathnach o CHART, a gychwynnodd y prosiect ffilm:

“Mae hwn wedi bod yn gydweithrediad gwych rhwng adrannau gwahanol ym Mhrifysgol Abertawe, purfa Vale ac Ysgol Bae Baglan, ac rydyn ni i gyd wedi dysgu a rhannu gwybodaeth a syniadau am greu dyfodol cynaliadwy.

“Mae wedi bod yn wych clywed y disgyblion yn adrodd eu stori eu hunain ynghylch sut maen nhw’n rhagweld y dyfodol yn eu ffilm. Mae gweithio gyda’n cymunedau lleol – ym myd diwydiant ac mewn ysgolion – yn rhan hollbwysig o’n strategaeth cenhadaeth ddinesig yn y Brifysgol.”

Ariannwyd y prosiect ffilm gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru, Llywodraeth Cymru, ac fe’i lansiwyd fel rhan o brosiect cydweithredol ehangach rhwng Ysgol Bae Baglan a CHART a archwiliodd sut gall prifysgolion gefnogi ysgolion i arloesi wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Cydweithredodd y tîm yn CHART â staff dyniaethau’r ysgol ar brosiect ar draws y dyniaethau am Bort Talbot o’r enw Dyfodol Mentrus a Chynaliadwy a oedd yn cynnwys meithrin cysylltiadau â phartneriaid diwydiannol lleol, sef Vale a Tata Steel.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan dîm CHART

%d bloggers like this: