04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Problemau gollwng sbwriel anghyfreithlon ar tir Heol Jenkins Mynachlog Nedd

MAE Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â phroblemau gollwng sbwriel yn anghyfreithlon sy’n effeithio ar ddarn o dir mewn perchnogaeth breifat ym Mynachlog Nedd.Oherwydd ei natur anghysbell a’r mynediad hwylus iddo, mae’r darn o dir ar Heol Jenkins, Mynachlog Nedd (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Heol y Lanfa) wedi cael ei gamddefnyddio’n rheolaidd gan y rhai sy’n gollwng sbwriel yn anghyfreithlon. Oherwydd mai eiddo preifat yw’r tir, nid oes gan y cyngor awdurdod drosto.

Er gwaethaf hynny, dros y blynyddoedd mae tîm gorfodi gwastraff y cyngor, gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, wedi llwyddo i erlyn sawl person am ollwng gwastraff yn anghyfreithlon ar y tir, ac fel rhan o weithio mewn partneriaeth, mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau bod y Tîm Prawf yn cael eu lleoli yn yr ardal ar sawl achlysur i glirio gwastraff a ollyngwyd yn anghyfreithlon.

Nid oes gan y Cyngor adnoddau digonol i ‘gadw llygad’ ar yr holl dir preifat yn y Fwrdeistref Sirol ar hyd yr amser, ac mae rhai ardaloedd fel hon yn peri trafferth yn barhaus. Mae swyddogion yn cynnal cyfarfodydd gyda pherchnogion ac asiantau tir trafferthus, ac maent wedi gwneud hynny’n ddiweddar ynghylch Heol Jenkins, mewn ymgais i ddatrys y problemau, yn gyntaf trwy drafod, ac yna trwy gyflwyno rhybudd 21 diwrnod i glirio’r gwastraff.

Yn achos Heol Jenkins cliriodd perchennog y tir y gwastraff y cyfeiriwyd ato yn y rhybudd, ond gwaetha’r modd, mae rhagor o wastraff wedi cael ei ollwng yno ers hynny. Bydd y tîm gorfodi yn awr yn cyflwyno rhybudd pellach.

Mae swyddogion wedi cael ar ddeall bod perchennog y tir wedi bod yn trafod gyda pherchnogion yr holl fusnesau sy’n defnyddio’r ffordd i gyrraedd eu hunedau masnachu, mewn ymgais i fynd ati ar y cyd i wella cyflwr y ffordd, gan obeithio bydd hynny’n gwella’r sefyllfa.

Yn y cyfamser, mae’r cyngor yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus. Os gwelwch chi rywun yn gollwng sbwriel, cysylltwch â’r Tîm Gorfodi Gwastraff ar 01639 686868 yn ystod oriau gwaith. Y tu allan i oriau gwaith arferol, ffoniwch yr Heddlu ar 101, gan roi manylion cofrestru unrhyw gerbyd perthnasol. I roi gwybod am ollwng sbwriel ar ôl iddo ddigwydd, ewch ar-lein neu ffoniwch ein Gwasanaethau Cwsmer ar 01639 686868.

Mae gollwng gwastraff yn anghyfreithlon yn dramgwydd droseddol ddifrifol, sy’n gallu arwain at ddirwy o hyd at £50,000 a/neu gyfnod o hyd at 12 mis o garchar (neu ddirwy amhenodol a hyd at 5 mlynedd o garchar os ceir ditiad i Lys y Goron). Hefyd gellir cipio unrhyw gerbydau a fu’n gysylltiedig ag achosion o ollwng sbwriel yn anghyfreithlon. Mae gennym hi hanes o erlyn yn llwyddiannus, a byddwn ni’n erlyn pob troseddwr rydym ni’n eu dal.

%d bloggers like this: