03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Profi cyfresol cael ei dreialu gan Heddlu De Cymru

MAE cynllun peilot pedair wythnos ar gyfer profion cyfresol asymptomatig gyda Heddlu De Cymru wedi’i gyhoeddi gan Llywodraeth Cymru.

Prif nod y peilot yw treialu trefn brofi cyfresol a fydd yn ceisio lleihau nifer staff yr Heddlu nad ydynt yn eu gwaith oherwydd hunanynysu yn dilyn cyswllt â pherson sydd wedi profi’n bositif am COVID-19.

Cyhoeddwyd cynllun tebyg ar gyfer staff a myfyrwyr ysgolion a cholegau Cymru yr wythnos ddiwethaf a fydd yn dechrau ym mis Ionawr.

Mae profi cyfresol yn golygu y byddai gofyn i staff yr Heddlu a nodir fel cysylltiadau agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif naill ai hunanynysu fel arfer neu gymryd prawf llif unffordd (LFT) ar ddechrau eu shifft drwy gydol y cyfnod hunanynysu.

Gall y rhai sy’n profi’n negatif barhau â’u gweithgareddau arferol; rhaid i’r rhai sy’n profi’n bositif hunanynysu a threfnu prawf PCR i gadarnhau.

Dyfais yn y llaw yw LFT sy’n cynhyrchu canlyniadau o fewn 20 i 30 munud a gellir ei hunanweinyddu.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

“Mae natur gwaith rheng flaen yr heddlu yn golygu bod rhyngweithio helaeth gydag aelodau o’r cyhoedd sy’n aml yn fwy agored i niwed – gan arwain at risg uwch o drosglwyddo, heintio a gofyn am hunanynysu. Mae hyn yn arwain at effaith andwyol ar allu gweithlu’r Heddlu i fynd i’r afael ag ymrwymiadau gorfodi’r gyfraith arferol o ddydd i ddydd.

“O ganlyniad i’r pwysau penodol sy’n wynebu ardal Heddlu De Cymru, rwyf wedi cytuno i gynnig i roi cychwyn i gynllun peilot profi cyfresol asymptomatig am bedair wythnos gyda Heddlu De Cymru, cyn cyflwyno profi cyfresol yn ehangach o bosib yn ardaloedd eraill yr heddlu yng Nghymru, yn amodol ar werthusiad ac adolygiad sy’n dangos effaith ac effeithiolrwydd y peilot cychwynnol hwn. Mae’r ardaloedd heddlu eraill yng Nghymru yn cytuno i’r cynnig hwn.”

Dywedodd Prif Uwcharolygydd Heddlu De Cymru, Andy Valentine:

“Rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydym wedi’i chael i sefydlu’r peilot profion llif unffordd ar gyfer ein swyddogion a’n staff.

“Rydym yn gweld yr effaith ddifrifol iawn mae’r trefniadau olrhain cysylltiadau’n ei chael ar lefelau adnoddau’r heddlu. Pan mae gan swyddogion a staff symptomau Covid-19 neu pan maent yn cael prawf positif, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar eu cysylltiadau agos i hunanynysu am 10 diwrnod. Oherwydd natur ddireolaeth ein gwaith, gall y cysylltiadau hyn fod yn niferus a chael effaith sylweddol ar yr unigolion dan sylw ac ar lefelau adnoddau.

“Bydd y peilot hwn yn caniatáu i swyddogion sy’n profi’n negatif ddychwelyd at eu dyletswyddau’n ddiogel fel eu bod yn gallu parhau i ddiogelu’r cyhoedd a chadw ein cymunedau’n ddiogel.”

%d bloggers like this: