03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Prosiect Seilwaith Gwyrdd yn ceisio gwella bywydau a’r amgylchedd naturiol

Mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Cwmaman a Choed Lleol, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i wella cysylltiad y gymuned â byd natur a mannau gwyrdd trwy ddefnyddio Seilwaith Gwyrdd.

Dull newydd o ymdrin â datblygu ein cymunedau a’n mannau gwyrdd yw seilwaith gwyrdd, ac mae’n darparu rhwydwaith o gynhwysion fydd yn lleihau heriau’r newid yn yr hinsawdd trwy adeiladu gyda byd natur.

Dywedodd y Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Adfywio a Datblygu Cynaliadwy:

“Mae Seilwaith Gwyrdd yn hanfodol i ansawdd bywyd trigolion Castell-nedd Port Talbot yn awr ac yn y dyfodol, ac mae’n cael ei gydnabod yn genedlaethol fel elfen bwysig o leoedd cynhwysol, sydd wedi’u dylunio’n dda.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

“Mae’n gallu cynyddu llesiant, iechyd a bioamrywiaeth, ac mae’n amrywio o adeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd fel toeon a waliau byw, newid trefniadau torri glaswellt i annog blodau gwyllt i dyfu, plannu coed a draenio trefol cynaliadwy, hyd at ddarparu gweithgareddau megis chwarae naturiol.“

Mae’r grant a ddyfarnwyd, Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig.

Bydd y prosiect sy’n cael ei ariannu, Cysylltu Seilwaith Gwyrdd, yn cael ei gynnal rhwng Tachwedd 2022 a Mawrth 2023.

Prif nodau’r prosiect yw galluogi cymunedau i fwyafu a manteisio’n llawn ar y gwasanaethau niferus sy’n cael eu darparu trwy’r cyfleoedd newydd a greir gan Seilwaith Gwyrdd.

Mae’r rhain yn cynnwys gwella ac ychwanegu at wydnwch ecosystemau a bioamrywiaeth a mannau gwyrdd yn yr amgylchedd trefol, yn ogystal ag asesu ein tirlun ac ymgysylltu â chymunedau trwy astudiaethau ac ymarferiadau ymgynghori er mwyn cynllunio datblygiadau i’r dyfodol.

Mae’r prosiect eisoes wedi creu saith cyfle am swyddi, a’r nod yw ymgysylltu â mwy na 200 o randdeiliaid, hyfforddi mwy na 100 o bobl, a chyflwyno hyd at 150 o welliannau newydd Seilwaith Gwyrdd ar draws yr ardal.

%d bloggers like this: