MAE dros 100 o grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn ymchwilio i ddulliau mwy effeithlon o weithio neu gyflwyno technolegau newydd drwy gyfres o brosiectau sector-benodol a ariennir gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Ers i’r rhaglen gael ei lansio yn 2016, cymeradwywyd dros 30 o geisiadau grŵp ar gyfer amryw o brosiectau mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru ac maent bellach yn mynd rhagddynt. Dywed Lynfa Davies, Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, sy’n bennaeth rhaglen EIP yng Nghymru ar ran Cyswllt Ffermio, fod dros 150 o ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau wedi’u hariannu gan EIP.

“Rwy’n hynod falch o nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd hyd yma, sy’n adlewyrchu penderfyniad y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant i ganfod a gweithredu cyfleoedd newydd i wella effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb ar yr adeg dyngedfennol hon, wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a ddisgwylir yn gyffredinol pan fyddwn yn gadael yr UE.

“Gan ystyried ehangder ac ansawdd y ceisiadau yr ydym yn eu prosesu ar hyn o bryd, rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targed o 45 o brosiectau ac felly nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau ychwanegol.

“Mae’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth wedi bod yn rhan bwysig o’r broses EIP, gan gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i gynlluniol prosiectau i’r grwpiau wrth iddynt eu datblygu. Bydd y cymorth hwn yn parhau i fod ar gael, ac os hoffai ffermwyr a choedwigwyr weld gwybodaeth am ganfyddiadau diweddaraf yr ymchwil, gallant gysylltu â’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth drwy Cyswllt Ffermio,” meddai Ms Davies.

Un o’r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw ymchwilio i ffyrdd o ychwanegu gwerth at ddefaid, sy’n brif ffynhonnell incwm i lawer o fusnesau yng Nghymru. Yn 2017, ymunodd Alan Jones, ffermwr defaid o Chwilog, ger Pwllheli, sydd erbyn hyn yn fentor cymeradwy Cyswllt Ffermio, â grŵp Agrisgôp lleol Cyswllt Ffermio dan arweiniad Geraint Hughes. Roedd Mr Hughes wedi gwahodd nifer o ffermwyr defaid yn ei ardal i ymchwilio i ffyrdd o ychwanegu gwerth i’w mentrau defaid i’w helpu i baratoi ar gyfer y cyfnod ansicr o’n blaen fydd yn heriol yn economaidd.

Yn ogystal â materion hwsmonaeth a maeth, roedd prif ffocws y grŵp ar reoli mamogiaid godro ar gyfer cynhyrchu caws, rhywbeth yr oedd nifer o aelodau’r grŵp wedi llwyddo i’w wneud hynny mor llwyddiannus, ac aeth Mr. Hughes at i’w hannog i fynd â’u hymchwiliadau i’r lefel nesaf drwy ofyn am gyllid gan EIP Cymru.

“Cafodd ein grŵp Agrisgôp gychwyn addawol, a arweiniodd at nifer ohonom yn dechrau darparu llaeth dafad i gynhyrchwyr caws arbenigol. Rydym yn awr yn adeiladu ar yr wybodaeth a gafwyd, na allem fod wedi’i wneud mor llwyddiannus heb gefnogaeth EIP Cymru,” meddai Mr Jones.

Dyfarnwyd yr uchafswm o £40,000 i’r grŵp dros gyfnod o ddwy flynedd. Ariannodd hyn gyngor gan nifer o brif arbenigwyr y DU, gan eu galluogi i fonitro ansawdd y llaeth a gwella proffil bacteriolegol y llaeth a gynhyrchwyd gan bob aelod.

“Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd wedi gallu cynhyrchu llaeth mamogiaid o ansawdd gwell a gan mai ein gweledigaeth ar y cyd yw bod ar flaen y gad yn y sector hwn sy’n datblygu, credwn bellach fod gennym sylfaen gadarn a system gynhyrchu a fydd yn ein helpu i fanteisio ar y farchnad yma sy’n ehangu’n gyflym, “meddai Mr Jones.

Roedd Lynfa Davies yn awyddus i bwysleisio y bydd gan ehangder y pynciau yr ymchwilir iddynt ar hyn o bryd botensial enfawr i’r diwydiant yng Nghymru.

“Bydd yr holl wybodaeth a gesglir yn cael ei rhannu drwy sianeli cyfathrebu Cyswllt Ffermio fel bod llawer o ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr eraill yn gallu elwa ar ganfyddiadau a gwersi EIP.

“Mae ystod y sectorau a’r pynciau a drafodir yn eang iawn, o leihau gwrthfiotigau mewn defaid ac asesu potensial profion genomeg mewn buchesi godro i dyfu asbaragws organig ar raddfa fach a sefydlu coedwigoedd newydd mewn tir sydd wedi’i ddifetha gan redyn,” meddai Ms. Davies.

Er nad oes modd derbyn unrhyw geisiadau newydd ar gyfer EIP Cymru, ychwanegodd Ms Davies fod nifer o wasanaethau a phrosiectau Cyswllt Ffermio eraill yn cynnig cymorth sy’n annog arloesi, yn cyflwyno technolegau newydd a dod o hyd i ffyrdd mwy effeithlon o weithio.

Gall y rhai sy’n dymuno datblygu syniadau i wella perfformiad busnes fanteisio ar gymorth ymgynghorol, gyda nawdd o hyd at 80% ar gyfer unigolion neu 100% ar gyfer grwpiau, gan arbenigwyr annibynnol. Hefyd mae mynediad i gyngor ar brosiectau arallgyfeirio a nifer o bynciau sector-benodol ar gael drwy raglen fentora un i un a ariennir yn llawn gan Cyswllt Ffermio.

Am ddiweddariadau ar brosiectau EIP Cymru sydd wedi’u cwblhau neu sydd ar y gweill, neu i gael cyngor ar yr holl gymorth arall sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio.

Mae EIP Cymru, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, wedi cael arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

We monitor clicks
ADVERT: We are seeing a reduction in newspaper sales across the UK. We believe every one of us deserves equal access to vital public service journalism. We have upheld our editorial independence in the face of the disintegration of traditional media. Our independence means we can set our own agenda and voice our own opinions. Our journalism is free from commercial and political bias. We can challenge the powerful without fear and give a voice to those less heard. We rely on donations and advertising to continue bringing you all your local news. We are grateful for any support you may be able to offer.

For More Hyperlocal News Stories Click on the Banner
, , ,
Related Posts
Latest Posts from Wales News Online