04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Pryder am gynnydd mewn achosion yn ardal Llanarth a Cheinewydd

Mae clwstwr o achosion o COVID-19 wedi’u nodi yn nalgylch pentrefi Ceinewydd a Llanarth yng Ngheredigion.

Dros y dyddiau diwethaf, mae nifer o achosion wedi dod i’r amlwg yn yr ardal sy’n peri pryder, ac anogir unrhyw un sydd â symptomau i fynd am brawf.

Mae Tîm Rheoli Achosion amlasiantaethol yn monitro’r sefyllfa. Mae cyfleusterau profi ychwanegol wedi’u cyflwyno i’r ardal a gall pobl archebu prawf trwy wefan Llywodraeth y DU: www.gov.uk/get-coronavirus-test

Symptomau’r Coronafeirws

Cynghorir i chi fynd am brawf o fewn pum diwrnod os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol:

peswch newydd parhaus
tymheredd uchel
colled neu newid i flas neu arogl

Er mwyn helpu i nodi achosion cudd o COVID-19 yn ein cymunedau wrth i amrywiolion newydd o’r feirws ymddangos, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda hefyd yn eich annog i gael prawf os oes gennych unrhyw un o’r symptomau canlynol a’u bod yn newydd, yn barhaus a/neu yn anghyffredin i chi:

symptomau annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
symptomau tebyg i’r ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder eithafol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu’n dynn; tisian parhaus; dolur gwddf a/neu grygni, prinder anadl neu wichian; cyfogi; neu ddolur rhydd
teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cyswllt ag achos hysbys o COVID-19
unrhyw newid mewn symptomau neu symptomau newydd yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Rhaid i chi hunanynysu yn syth am 10 diwrnod os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod a threfnu prawf PCR: www.llyw.cymru/coronafeirws

Hyd yn oed os ydych wedi cael y ddau frechlyn, cofiwch olchi eich dwylo’n rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Trwy ddilyn yr arferion da yma gallwn wneud ein rhan i ddiogelu Ceredigion.

 

%d bloggers like this: