CYNHELIR y ras 10k Parc Margam gyntaf erioed er mwyn codi arian ar gyfer Cronfa Elusen Maer Castell-nedd Port Talbot yn amgylchedd hardd Parc Gwledig Margam, Port Talbot, ddydd Sadwrn 13 Mawrth.
Fedr pol fod yn rhan o’r digwyddiad cyffrous aml-dirwedd cyntaf hwn gan ddefnyddio’r ddolen hon: https://www.margamcountrypark.co.uk/10k . Mae ffu o £20 i gofrestru.
Gall rhedwyr ddewis llwybr 10k neu 5k ac yn ogystal â mwynhau rhedeg drwy’r parc hanesyddol, byddan nhw’n helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer dau achos teilwng iawn a ddewiswyd gan Gronfa Elusen Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd John Warman, eleni – Her Canser Castell-nedd Port Talbot a Sefydliad y Galon Cymru.
Mae’r digwyddiad newydd sbon yn cael ei gefnogi gan John Pye Auctions, Auction City, Ystâd Ddiwydiannol Cynffig, Margam – cyfleuster ocsiwn dan do mwyaf Ewrop
Yn ôl Maer Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd John Warman:
“P’un ai os ydych chi eisiau gwthio eich hun, dod mewn gwisg ffansi, neu ddim ond mynd i redeg yn hamddenol gyda ffrindiau, mae ras 10k Parc Margam yn ffordd wych o chwythu gwe pry cop y gaeaf o’ch ysgyfaint a chael eich hunan yn barod at y gwanwyn yn yr amgylchfyd hardd a naturiol hwn.
“Hefyd, byddwch chi’n helpu i roi cyhoeddusrwydd a chodi arian i fy nwy Elusen y Maer, Sefydliad y Galon Cymru a Her Canser Castell-nedd Port Talbot (NPTCC).”
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m