03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Recordiau o John Jones, Cwmmawr -‘Cymro’ – tua 1960

Tua chwe degawd yn ol fe gynhyrchwyd chwe record o ganeuon fy nhadcu John Jones Cwmmawr. Ei enw esteiddfodol oedd ‘Cymro’.’Roedd yn adnabyddus traws de Cymru ac yn enwedig yn Eisteddfodau’r Glowyr ym Mhorthcawl. Cefais y records blynydde ‘nol gan fy nhad. A dyma nhw er cof a chadw.

‘Roedd tua 80 deg ar y pryd. Cof sydd gennyf o deulu a oedd yn gerddorol iawn ac yn berfformwyr a nifer, gan gynnwys rhai o’r wyron, gyda lleisiau canu da.

Gyda pob record mae yna grwp o luniau o’r teulu ac eraill – dim mewn trefn strwythedig. Eto y mwyafrif o’r llunie mewn album oedd gan fy nhad John Ellis.

Record 1 ‘Cloch y Llan’ Llunie – Beti, ei ferch a oedd yn cyfeilio, John Jones gyda’i.gwpane, gydai wraig, Beti eto, llun o’r plant ar achlysur priodas Aur eu rhieni, gyda Joe Gormley yn Eisteddfod y Glowyr ac yna gyda minne.

Record 2 ‘Buddigoliaeth’ Llunie – gyda fy nhadcu a’i gwpane (‘roedd yn hynod browd ohonynt), achlysur priodas Aur, gyda’r wyron.

Record 3 ‘Caersalem’ Llunie – Beti, cwpane, cydweithwyr o Lofa’r Tymbl

Record 4 ‘O’r Niwl i’r Nef’ llunie – Beti, priodas Aur, pennill amdano gan y bardd Dai Culpitt o Gefneithin, gyda Joe Gormley, pedwar cenhedlaeth yn 1969 a’r mab Glyndwr Cennydd yn faban, tu allan i’r gweithdy yn y Lofa.

Record 5 ‘Yr Hen Gerddor’ Llunie – Cwpane, mewn priodas, priodas ei ferch Fanny a Gwyn, Jeannie a Dai, ei fab Gwilym, Claudia ( yr unig blentyn sydd dal yn fyw bellach), pedair o’r merched -Valmai, Bronwen, Beti a Claudia, Jeannie.

Record 6 ‘Pistyll y Llan’ LLunie – ‘Yn ei Elfen’, cwpane, priodas Elsie a Bryn, Bronwen, Lilian pan yn nyrs, Lilian a’i gwr Glyn (fu’n garcharor rhyfel yn rhyfel Korea), Elsie, priodas fy mam a nhad, yn ‘page boy’ priodas Valmai ac Alan, y tri nesa megis cynt ac yna yn ola priodas Claudia a Islwyn.

Wel dyna ni – peth atgofion o amseroedd hyfryd ‘rwyf o hyd yn eu trysori

%d bloggers like this: