04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhaglen gyfalaf Cyngor Rhondda Cynon Taf o £116m dros tair mlynedd

BYDD Cabinet Rhondda Cynon Taf yn ystyried cynigion ar gyfer rhaglen gyfalaf newydd a fyddai’n buddsoddi £116 miliwn mewn gwasanaethau a seilwaith y Cyngor dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol untro’r Cyngor gwerth £9.4 miliwn ar gyfer blaenoriaethau wedi’u targedu yn 2021/22.

Yn rhan o gyfarfod dydd Iau, 25 Chwefror bydd adroddiad i’r Aelodau  yn amlinellu’r cynigion a fydd yn cael eu hariannu gan adnoddau’r Cyngor ei hun, Grant Cyfalaf Cyffredinol Llywodraeth Cymru ac ystod o grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen gyfalaf yn darparu cyllid ar draws holl feysydd gwasanaeth y Cyngor dros y cyfnod o dair blynedd – gan gynnwys Priffyrdd, Parciau, seilwaith Trafnidiaeth, Adfywio Canol Trefi a Grantiau Busnes, Grantiau Adnewyddu, Ysgolion, Parciau ac Ardaloedd Chwarae a Gwasanaethau Oedolion a Phlant. Nod y rhaglen gyfalaf yw effeithio’n sylweddol ar ddarpariaeth gwasanaethau. Mae’n rhan allweddol o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig gyffredinol y Cyngor.

Byddai’r cyllid ychwanegol arfaethedig o £9.4 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau 1 Ebrill, 2021 yn adnodd untro i’w fuddsoddi yn seilwaith y Cyngor a chefnogi ymhellach ei ddyheadau a’i flaenoriaethau wedi’u targedu. Mae’r rhain yn cynnwys:

Priffyrdd a Ffyrdd – £3 miliwn; Strwythurau Priffyrdd – £1.5 miliwn; Pont droed yr A4059 – £1.5 miliwn a Cyfnewidfa’r Porth (Canolfan Drafnidiaeth) – £1.5 miliwn

Os bydd y Cabinet yn cytuno ar y rhaglen gyfalaf ac adnoddau ychwanegol yn y cyfarfod ddydd Iau, yna byddan nhw’n cael eu hargymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Bydd Aelodau’r Cabinet yn ystyried adroddiad ddydd Iau sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen gyfalaf barhaus y Cyngor. Mae’r rhaglen yn cael ei phennu yn flynyddol am gyfnod o dair blynedd er mwyn i ni gynllunio ein buddsoddiad mewn gwasanaethau â blaenoriaeth. Mae’r adroddiad yn cynnig rhaglen fuddsoddi gwerth £116 miliwn hyd at 2023/24.

“Mae’r rhaglen gyfalaf yn parhau i ddarparu ymrwymiad cyllid ar gyfer nifer o brosiectau cyffrous. Mae hyn yn helpu i gefnogi’r blaenoriaethau sydd wedi’u nodi yn ein Cynllun Corfforaethol. Er enghraifft, ar y cyd â phartneriaid bydd gwaith ailddatblygu YMCA Pontypridd yn parhau, yn ogystal â’r gwaith ar unedau modern newydd i fusnesau yn Nhresalem, Ffordd Osgoi Llanharan, ffordd ddeuol yr A4119 (Coed-elái i Ynysmaerdy) a Phorth Gogledd Cwm Cynon (ymestyn Ffordd Osgoi Aberdâr). Yn ddiweddar rydyn ni wedi cwblhau’r gwaith ar y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar, Llys Cadwyn a’r unedau busnes modern yng Nghoed-elái.

“Yn 2018, cytunodd y Cyngor ar fuddsoddiad cyfalaf gwerth £300 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd ar ben ein rhaglen gyfalaf dreigl. Nifer o weithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi llwyddo cyflwyno buddsoddiadau ‘untro’ penodol ar gyfer ardaloedd allweddol wedi’u targedu. Mae adroddiad cyfarfod dydd Iau yn nodi’r cyfle buddsoddi diweddaraf ac mae modd i ni gadarnhau cyllid ychwanegol gwerth £9.4 miliwn ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor.

“Rwy’n falch bod y cynigion yn nodi cyllid ychwanegol newydd ar gyfer meysydd allweddol fel Priffyrdd (£3 miliwn) a Strwythurau (£1.5 miliwn), Strwythurau Parciau (£750,000), Parciau a Mannau Gwyrdd (£500,000) a Mannau Chwarae (£250,000), yn ogystal â phrosiectau cyffrous yn y dyfodol fel Canolfan Drafnidiaeth y Porth a fydd yn gwella profiadau teithio pobl leol ar y bysiau a’r trenau yn sylweddol, a chynllun gwella pont yr A4059 yn Aberdâr.”

%d bloggers like this: