04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhaglen Lywodraeth Lafur yn ‘denau o ran manylder’ ac yn ‘absennol o dargedau’ – Plaid

WRTH ymateb i raglen lywodraethol y Llywodraeth Lafur, dywedodd Dirprwy Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS,

“Yr hyn sydd ei angen ar Gymru nawr yw llywodraeth a fydd yn mynd i’r afael â diweithdra ac amseroedd aros y GIG; llywodraeth a fydd yn mynd i’r afael â gwraidd tlodi plant; llywodraeth a fydd yn datrys yr argyfwng tai gyda’r brys sydd ei angen a llywodraeth a fydd yn sicrhau newid cadarnhaol a thrawsnewidiol i bawb sy’n galw Cymru yn gartref.

“Ond does dim byd trawsnewidiol nac uchelgeisiol ynglŷn â rhaglen Llafur ar gyfer Llywodraeth.

“Nid oes unrhyw strategaeth economaidd i gefnogi a helpu busnesau bach a chanolig o Gymru i dyfu nac unrhyw fanylion ar sut y byddant yn darparu swyddi â sgiliau uchel, â chyflog da ym mhob rhan o Gymru. Nid oes unrhyw beth yma sy’n agos at fynd i’r afael â gwir achos tlodi plant – nac unrhyw ymrwymiad pendant i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn. Ac nid oes unrhyw beth yma sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng tai sy’n brysur waethygu ac sy’n prisio pobl ifanc allan o’u cymunedau.

“Nid yw’r rhaglen hon, sy’n denau o ran manylion ac yn absennol o dargedau, yn mynd i ddarparu’r dechrau newydd y mae ei angen ar Gymru ac nid hwn yw’r cynllun sydd ei angen i fynd â Chymru ymlaen i adferiad a thu hwnt.

 

%d bloggers like this: