04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhagor o gyllid ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth

MAE mwy o fusnesau twristiaeth yn Abertawe bellach yn cael cyfle i wneud cais am gyllid i wella ansawdd yr hyn sydd ar gael ganddynt i ymwelwyr. Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n bwriadu gwella profiad ymwelwyr drwy uwchraddio’r llety a gynigir neu sicrhau gradd uwch.

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer darparwyr llety bach yn ardaloedd gwledig neu led-gwledig y ddinas sy’n cyflogi 25 o bobl neu lai hyd at 26 Gorffennaf.

Dyma ail rownd Cronfa Cymorth i Dwristiaeth Cyngor Abertawe, gyda grantiau o hyd at £8,000 ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus.

Elwodd wyth busnes twristiaeth o rownd gyntaf y cynllun, sy’n rhan o gronfa adferiad economaidd gyffredinol y cyngor gwerth £25m.

Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth:

“Mae ein busnesau twristiaeth yn gwneud cyfraniad mor bwysig i economi Abertawe felly mae’r busnesau hyn yn haeddu’r cymorth gan y cyngor. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae angen cynlluniau grant o’r fath mwy nag erioed ar y sector twristiaeth, un o’r sectorau yr effeithiwyd arno fwyaf gan y pandemig.

“Mae’r busnesau a ymgeisiodd yn llwyddiannus fel rhan o rownd gyntaf y cynllun ariannu hwn eisoes yn elwa.

“Bydd gwelliannau o’r math hwn yn helpu i godi proffil Abertawe ymhellach fel cyrchfan i ymwelwyr, gan helpu i ddenu hyd yn oed mwy o bobl yma yn y dyfodol. Bydd hyn yn creu mwy o wariant a mwy o swyddi i bobl leol a busnesau lleol.”

Roedd busnes Hillside Glamping Holidays yn Llangynydd, sy’n cael ei redeg gan Ellen ac Andrew Taylor, ymhlith y busnesau i elwa o rownd gyntaf y cynllun. Helpodd yr arian y busnes i osod paneli pren ym mhedair ystafell wely ei podiau glampio a chreu man eistedd awyr agored cysgodol i westeion fwynhau syllu ar y sêr.

Meddai Ellen:

“Ni fyddem wedi gallu cyflawni’r holl waith hwn heb gymorth cronfa cymorth i dwristiaeth y cyngor, felly mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n busnes.

“Rydyn ni wedi gallu gwneud llawer mwy nag oedden ni’n bwriadu ei wneud yn wreiddiol, ac mae llawer o’n cwsmeriaid sy’n dychwelyd yn dweud cymaint maen nhw wrth eu bodd â’r gwelliannau rydyn ni wedi’u cyflwyno.”

Mae busnesau eraill sydd wedi elwa o rownd gyntaf y cynllun yn cynnwys Bythynnod Dyffryn Clun, y gwnaed gwelliannau i Fwthyn y Ceidwad a’r bwthyn cyfagos, Barn Owl Cottage. Mae cyllid hefyd wedi helpu Fferm Tir Cethin yn y Crwys i brynu a gosod tybiau twym arddull Sgandinafaidd i’w gwesteion eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn.

 

 

%d bloggers like this: