04/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhagor o gymorth i ofalwyr Gorllewin Cymru / More support for West Wales carers

MAE strategaeth newydd wedi’i lansio i wella bywydau dros 47,000 o ofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru.

Yn cyd-fynd â Diwrnod Hawliau Gofalwyr, mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru wedi lansio cynllun pum mlynedd sy’n rhoi sylw i bedwar maes allweddol i wella’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl sy’n gofalu am deulu neu ffrindiau.

Gofalwr yw unrhyw un, o unrhyw oed, sy’n darparu gofal yn ddi-dâl i rywun nad yw’n gallu ymdopi fel arall, naill ai oherwydd ei fod yn sâl, yn fregus, yn anabl, yn dioddef o bryderon iechyd meddwl neu fod ganddo broblemau o ran camddefnyddio sylweddau.

Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y darperir cefnogaeth i helpu gofalwyr i gael cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, yn ogystal â chefnogaeth i’w helpu i fanteisio ar wasanaethau digidol.

Bydd mwy o ffocws ar ymyrraeth gynnar i nodi pobl megis gofalwyr a sicrhau bod ystod o wasanaethau ar gael i gefnogi eu llesiant.

Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru ac Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o gael lansio’r strategaeth ranbarthol hon yn ffurfiol ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr. Mae gwella bywydau Gofalwyr yn flaenoriaeth i holl aelodau’r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod pawb yn byw bywydau iachach, hapusach, a hirach, ac yn cael cymorth i barhau’n actif ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Gofalwyr yn cael eu cydnabod, eu gwerthfawrogi fel partneriaid arbenigol mewn gofal, a’u cefnogi yn eu rôl gofalu.”

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cynnwys siroedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ac yn cefnogi trawsnewid ac integreiddio gofal a chymorth yn y rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Gaerfyrddin: “Mae gofalu am rywun yn gallu bod yn heriol ac yn bleserus. Mae rhai gofalwyr yn darparu gofal ddydd a nos, ac mae hyn yn gallu bod yn anodd, yn flinedig ac yn waith caled iawn. Yn achos eraill, maent yn gorfod gweithio wrth ofalu am anwyliaid. Mae llawer o ofalwyr yn profi unigedd, problemau iechyd corfforol a materion emosiynol fel pryder a straen, a gall gofalu am rywun yn ogystal ag ymgymryd ag ymrwymiadau eraill fod yn anodd iawn. Mae miloedd o ofalwyr nad ydynt yn cael eu talu yng Ngorllewin Cymru yn gofalu am berthnasau, ffrindiau, neu gymdogion, a heb eu hymroddiad byddai’r baich ar ein gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn enfawr. Bydd y Strategaeth hon yn rhoi mwy o ffocws ar beth y gellid ei wneud i’w cefnogi nhw mewn cynifer o ffyrdd â phosibl.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Gofalwyr ranbarthol, cysylltwch â’r Tîm Partneriaeth Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant drwy anfon e-bost at inclusion.hdd@wales.nhs.uk

A new strategy has been launched to improve life for more than 47,000 unpaid carers in west Wales.

Coinciding with Carers Rights Day, the West Wales Care Partnership has launched a five-year plan focused on four key areas to improve the support available for people caring for family or friends.

A carer is anyone, of any age, who provides unpaid care to someone who couldn’t otherwise manage, either because they are ill, frail, disabled, have mental health concerns or have substance misuse issues.

The strategy outlines how support will be provided to help carers maintain education, training and employment opportunities, and support to help them take advantage of digital services.

There will be greater focus on early intervention to identify people as carers and ensuring a range of services are available to support their well-being.

Judith Hardisty Chair of the West Wales Regional Partnership Board and Vice-Chair of Hywel Dda University Health Board said: “I’m delighted to be formally launching this regional strategy on Carers Rights Day. Improving lives for Carers is a priority for all members of the Regional Partnership Board as we strive to ensure that everyone lives longer healthier and happier lives and are supported to remain active and independent in their own homes for as long as possible. Our vision is to ensure that Carers are recognised, valued as expert partners in care and supported in their caring role.”

The West Wales Care Partnership covers the counties of Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire and supports transformation and integration of care and support in the region.

Carmarthenshire Council’s executive board member for social care, Cllr Jane Tremlett said: “Caring for someone can be both challenging and rewarding. Some carers provide around the clock care which can be a huge struggle, exhausting and very demanding. Others have the added hardship of working whilst caring for a loved one. Many carers experience isolation, physical health problems and emotional issues such as anxiety and stress and balancing the caring role whilst juggling other commitments can be extremely hard. Thousands of unpaid carers in West Wales are helping to look after relatives, friends or neighbours, and without their dedication the burden on our health and social care services would be huge. This Strategy will put greater focus on what can be done to support them in as many ways as possible.”

For further information about the regional Carers Strategy contact the Strategic Partnership, Diversity and Inclusion Team by emailing inclusion.hdd@wales.nhs.uk

%d bloggers like this: