04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhagor o ysgolion Abertawe i elwa o’r buddsoddiad mwyaf erioed

GALLAI Ysgol Uwchradd Tre-gŵyr, YG Bryn Tawe ac ysgolion arbennig Abertawe fod nesaf i elwa o’r buddsoddiad mwyaf erioed mewn adeiladau ysgol yn y ddinas.

Yn ôl rhaglen gyfredol Cyngor Abertawe, caiff bron £170m ei wario i wella ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau diwylliannol a chwaraeon ar gyfer miloedd o ddisgyblion.

Dywed adroddiad i Banel Craffu Perfformiad Addysg y cyngor fod gwaith yn datblygu’n dda ar bedwar prosiect mawr i fuddsoddi mewn ysgolion su’n mynd rhagddynt yn Abertawe fel rhan o Fand B y Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif/AoS gwerth £149.5m a ariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru.

Mae gwaith ehangu ac ailfodelu yn digwydd yn awr yn Ysgol Gyfun Gŵyr ac Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt ac mae ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw.

Agorodd ysgol newydd gwerth £6.9m ar gyfer Gorseinon fis Medi diwethaf ac mae’r ysgol newydd gwerth £9.64m sef Maes Derw newydd agor yn y Cocyd i gefnogi rhai o ddysgwyr mwyaf diamddiffyn Abertawe.

Mae achosion busnes yn cael eu datblygu nawr yn Ysgol Uwchradd Tre-gŵyr, YG Bryn Tawe ac ysgolion arbennig Abertawe wrth i opsiynau eraill gael eu hasesu ar gyfer gweddill y cam hwn o’r rhaglen.

Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd mwy na 60 o ysgolion yn Abertawe wedi elwa o raglen cynnal a chadw cyfalaf y cyngor gyda buddsoddiad o £14.4m ers 2019.

Mae’r cyngor hefyd wedi sicrhau bron £2m o gyllid ychwanegol o raglen Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau yn ysgolion cynradd Penyrheol, Seaview a Hendrefoilan ac YGG Bryniago.

Mae rhagor o arian grant hefyd yn barod er mwyn codi estyniadau yn YGG Y Login Fach ac YGG Bryn-y-Môr y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Cyng. Jennifer Raynor, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

“Ar draws Abertawe mae hen adeiladau ysgol a’r rheini sydd wedi dyddio yn cael eu hailwampio neu mae adeiladau newydd yn cael eu codi yn eu lle, gan ddarparu gwell ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau i filoedd o ddisgyblion a’u hathrawon.

“Mae hyn yn gwella’u gwersi ac yn rhoi’r amgylchoedd gorau i ddisgyblion y gallant weithio ynddo i gyflawni eu potensial llawn.

“Er gwaethaf y pandemig dros y 14 mis diwethaf, mae cryn gynnydd wedi’i wneud a hoffwn ddiolch i staff, ein holl gontractwyr ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, am eu cefnogaeth barhaus.

“Roedd yn hyfryd ymweld â Gorseinon a Maes Derw yn y misoedd diweddar i weld yr ysgolion newydd hyn yn agor  a chlywed o lygad y ffynnon y gwahaniaeth maent wedi’i wneud i staff a disgyblion.

“Mae’r Cabinet yn edrych ymlaen at weld prosiectau eraill yn cael eu cwblhau a chyhoeddi rhai newydd wrth i ni barhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn addysg, ysgolion ac ym mhobl ifanc Abertawe.”

%d bloggers like this: