03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhaid i westai, lletyau gwely a brecwast, chartrefi gwyliau aros ar gau

LLYWODRAETH CYMRU wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithredwyr llety gwyliau yng Nghymru sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Cymru 2020.

Mae’r canllawiau yn glir y dylai pob busnes llety gwyliau fod eisoes ar gau a rhaid iddynt aros ar gau nes clywir yn wahanol. Mae’n drosedd i berchnogion llety beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Mae hefyd yn drosedd i unrhyw un i atal perchnogion rhag cyflawni eu dyletswyddau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n gyfnod hynod o anodd i’r diwydiant twristiaeth, fodd bynnag, dylai busnesau llety eisoes fod ar gau a dylent aros ar gau nes clywir yn wahanol. Hoffwn ddiolch i’r diwydiant am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod anarferol hwn, a chan fod yn rhaid i’r diwydiant twristiaeth gau ei ddrysau am y tro, rhaid i bawb barchu’r mesur eithafol hwn. Peidiwch â theithio, arhoswch yn ddiogel yn eich prif gartref. Ni chaniateir teithio at ddibenion hamdden. Mae pob llety ac atyniad gwyliau yng Nghymru ar gau i ymwelwyr.

“Mae’r neges yn glir – arhoswch gartref i arbed bywydau”.

Gall Gweinidogion Cymru neu Awdurdodau Lleol wneud cais am lety i agor at ddiben penodol. Oni bai y gofynnir yn benodol i fusnesau agor eu drysau, maen rhaid iddynt aros ar gau. Gellir gofyn iddynt agor i letya gweithwyr allweddol, pobl sydd wedi’u dadleoli neu sy’n ddigartref neu i ddarparu llety ar gyfer cleifion.

I’r perwyl hwnnw, ac i gefnogi’r ymdrech genedlaethol i gadw pawb yn ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi ysgrifennu at ddarparwyr llety i ofyn a all unrhyw un gynnig llety ar gyfer grwpiau bregus.

Mae Busnes Cymru yn darparu cymorth wedi’i deilwra a chyngor i fusnesau ynghylch sut i ymdopi â’r coronafeirws, o gynllunio’n ariannol a’r gadwyn gyflenwi i gyngor ar materion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sydd eisiau canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

%d bloggers like this: