04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

”Rhaid i’r Rhaglen ‘Profi ac Olrhain’ fod yn effeithiol ym mhob rhan o Gymru” medd Plaid Cymru

MAE Gwinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth AS, yn dadlau o blaid ymateb cyflymach i brofion coronafeirws.

Galwodd am ymateb cyflymach i gael canlyniadau profion coronafeirws. Mae cyngor gwyddonol yn dangos mai’r rhaglenni profi mwyaf llwyddiannus ledled y byd yw’r rhai a all ddychwelyd canlyniadau profion coronafeirws o fewn 24 awr. Hefyd mae ap Iorwerth wedi gofyn am “sicrwydd pellach” fod elfennau’r rhaglen profi ac olrhain yn cael eu cyflymu ac mae wedi gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod effeithiolrwydd y rhaglen ‘profi ac olrhain’ “yn wir ym mhob rhan o Gymru”.

Mewn papur a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, mae’r Grŵp Cynghori Technegol yn cadarnhau bod y cynlluniau Profi, Olrhain ac Amddiffyn mwyaf llwyddiannus yn gofyn am ganlyniadau prawf o fewn 24 awr. Er bod Prif Weinidog Cymru wedi datgan ei “uchelgais” i ganlyniadau profion fod yn ôl o fewn 24 awr, dim ond traean o’r profion sy’n cael eu dychwelyd o fewn yr amseroedd hyn ar hyn o bryd.

Mae Mr ap Iorwerth wedi galw am sicrwydd pellach bod gwaith yn cael ei wneud i gyflymu’r holl broses brofi. Mae’n dweud y bydd dychwelyd canlyniadau’r profion yn gyflymach yn galluogi Cymru i ddal achosion lleol “drwy’r rhan olrhain o’r rhaglen”.

Mae Mr ap Iorwerth hefyd wedi galw am ddadansoddiad rhanbarthol o ganlyniadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw oedi mewn rhai ardaloedd, yn dilyn pryderon gan etholwyr bod y broses brofi yn arafach yn y gogledd.

Dywedodd y Gweinidog Cysgodol Iechyd Plaid Cymru:

“Rydyn ni wedi clywed gan gynghorwyr Llywodraeth Cymru mai rhaglenni profi, olrhain a diogelu llwyddiannus yw’r rhai sy’n dychwelyd canlyniadau profion coronafeirws o fewn 24 awr. Mae’r manteision yn glir – os yw pobl wedi profi’n bositif, gellir dechrau’r elfen olrhain o’r rhaglen yn gyflymach, ac mae gennym well siawns o fod yn atal yr ymlediad. Yn yr un modd, i’r rhai nad ydynt wedi’u heintio, gallent ddychwelyd i’w bywyd bob dydd yn gynt, a gallai hyn gynnwys gweithwyr allweddol.

“Rwy’n gofyn am sicrwydd pellach bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd o ran cyflymu hyn, gan y bydd dychwelyd canlyniadau profion yn gyflymach yn galluogi Cymru i ddal achosion lleol yn well.

“Rwyf hefyd yn galw am ddadansoddiad rhanbarthol o faint o amser y mae’n ei gymryd i gael canlyniadau profion. Mae pobl yn fy etholaeth wedi mynegi pryderon am arafwch y broses brofi yn y gogledd. Os bydd un ardal o Gymru yn gweld oedi wrth ddychwelyd canlyniadau’r profion, byddant yn arafach yn cysylltu â phobl a allai fod wedi’u heintio, a gall hyn gael effaith ar yr ardal leol gyfan.

“Mae’n hanfodol bod y profi ac olrhain yn gweithio’n effeithiol ac yn gyflym, a bod hyn yn wir ym mhob rhan o Gymru.”

%d bloggers like this: