04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rheilffordd hynaf y byd yn ail ddechrau trwy grant £250k Y Loteri

AR ôl cael eu gorfodi i gau eu holl weithrediadau’n gynharach eleni oherwydd yr argyfwng COVID-19 distrywiol, o’r diwedd mae goleuni ym mhen draw’r twnnel i un o’r rheilffyrdd twristiaid mwyaf o ran llwyddiant a maint yng Nghymru, wrth i’w gwasanaethau ddychwelyd i’r trac gyda chymorth £250,000 gan y Loteri Genedlaethol.

Pan ddaeth mesurau’r cyfnod clo i rym ym mis Mawrth eleni, roedd Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru (RhFf&UC) yng ngogledd Cymru, ynghyd â miloedd o rai eraill yn y sector twristiaeth, yn paratoi i agor ar gyfer yr hyn a fyddai’n ddechrau eu cyfnod prysuraf fel arfer. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 byd-eang, fe’u gorfodwyd i gau eu gweithrediadau i lawr a newid yn syth  i’r modd goroesi.

Yn draddodiadol, mae rheilffyrdd treftadaeth ar draws y DU yn denu miliynau o ymwelwyr a theithwyr bob blwyddyn. Maent yn cefnogi tua 4,000 o swyddi ac yn cyfrannu oddeutu £400miliwn o effaith economaidd at yr economi ymwelwyr. Maent yn chwarae rôl allweddol ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion sy’n dysgu sgiliau treftadaeth hanfodol hefyd. Roedd effaith cael eu gorfodi i gau yn ystod eu hamser prysuraf yn y flwyddyn yn ddistrywiol i incwm RhFf&UC.

Er hynny, mae Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru (RhFf&UC) ymysg nifer o reilffyrdd treftadaeth ar draws y DU sydd wedi derbyn cyllid hanfodol gan Gronfa Argyfwng Treftadaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Rhoddwyd y gronfa £50m at ei gilydd wrth ymateb i’r argyfwng COVID-19 i gefnogi’r sector treftadaeth.

Mae’r cyllid, sy’n bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn galluogi talu biliau a chyflogau ac i waith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol barhau ar draciau, peiriannau a threnau. Mae’n helpu sefydliadau i edrych ymlaen tuag at ailagor am fusnes a chael eu gwirfoddolwyr, prentisiaid a staff yn ôl.

Wrth i fesurau’r cyfnod clo fynd yn llai, ailddechreuodd gwasanaethau ar Reilffordd Ffestiniog ar 20 Gorffennaf, ac ar Reilffordd Ucheldir Cymru ar 18 Awst, ond gyda chapasiti llai o lawer gan y bu’n rhaid addasu’r cerbydau a chyfyngu ar gapasiti oherwydd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r cyfyngiadau hyn yn parhau i gyfyngu ar y refeniw y gallant ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae’r grant o £250,000 gan Y Loteri Genedlaethol yn galluogi RhFf&UC i barhau i gynnal a chadw eu hadeiladau treftadaeth, gwaith y bu’n rhaid ei ohirio ar ddechrau’r argyfwng.

I ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth, mae locomotif cyntaf Rheilffordd Ucheldir Cymru i gael ei rolio allan ers i fesurau’r cyfnod clo fynd yn llai yng Nghymru wedi cael ei addurno gyda neges ‘Diolch i Chi’ arbennig i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi mwy na £30 miliwn yr wythnos dros achosion da ar draws y DU.

Gan amlygu pwysigrwydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol, meddai Rheolwr Cyffredinol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, Paul Lewin:

“Heb yr arian hwn, yn syml ni fyddai modd i ni fforddio parhau â’r gwaith hynod bwysig hwn gan i ni golli pedwar mis o’n tymor brig i bob pwrpas.  Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi bod yn gefnogol iawn o’n prosiect parhaus i sicrhau dyfodol safle’r gweithdy rheilffordd hanesyddol yn Boston Lodge trwy waith cadwraeth ar yr adeiladau o’r 19eg ganrif sy’n dal i sefyll er mwyn sicrhau y gallant barhau i weithredu’n effeithiol i mewn i’r 21ain ganrif. Diolch i gefnogaeth gwerthfawr tu hwnt Y Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr, rydym yn falch o gadarnhau bod y prosiect hwn yn parhau heb oedi, er gwaetha’r sefyllfa heriol sydd ohoni.”

Ychwanegodd Mr Lewin:

“Daeth COVID-19 â’n holl ymdrechion i stop sydyn yr oedd ganddo’r potensial i fod yn niweidiol iawn. Golyga’r gefnogaeth ychwanegol gan Y Loteri Genedlaethol yn ystod yr argyfwng hwn y gallwn lunio cynllun sy’n gweld ein busnes yn goroesi’r heriau yn y tymor byr iawn a symud ymlaen i ffynnu unwaith eto yn y dyfodol.”

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cymru:

“Mae ein rheilffyrdd treftadaeth yn hollol ddibynnol ar fisoedd yr haf ar gyfer eu hincwm. Mae’r cyfnod clo wedi gadael llawer mewn caledi gyda rhai’n wynebu dyfodol llwm. Rydym yn ddiolchgar y bu modd i ni gefnogi nifer ohonynt gyda chyllid argyfwng diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru. Mae’r sector treftadaeth mor hanfodol i dwristiaeth, swyddi a llesiant wrth i ni ddod allan o’r argyfwng yma.”

%d bloggers like this: