04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rheolau arbed ynni ar gyfer pob cartref rhentu preifat yng Nghymru

RHEOLAU arbed ynni ar gyfer pob cartref rhentu preifat yng Nghymru

Bydd rhaid i landlordiaid Cymru sicrhau bod eu heiddo rhentu preifat yn bodloni safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol o 1 Ebrill 2020 ymlaen – ond mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i helpu landlordiaid i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae eiddo rhentu preifat domestig Cymru wedi’u rheoleiddio gan y Safonau Effeithlonrwydd Ynni Gofynnol. Rhaid cael Tystysgrif Perfformiad Ynni gradd E neu uwch ar eiddo o’r fath i gydymffurfio â’r gyfraith.

Bydd landlordiaid sy’n gosod eiddo dan denantiaeth ddomestig fyrddaliadol, reoleiddedig neu denantiaeth fyrddaliadol sicr yn cael eu heffeithio gan y newid.

Ers 1 Ebrill 2018, roedd yn ofynnol i gytundebau tenantiaeth a gychwynnwyd neu a adnewyddwyd ar ôl y dyddiad hwnnw fodloni’r lefelau gofynnol newydd ar unwaith.

O 1 Ebrill 2020 ymlaen, bydd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i gynnwys tenantiaethau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod unrhyw eiddo rhent preifat sy’n methu bodloni’r gofynion sylfaenol yn anghyfreithlon, a gall y landlord gael cosb sifil o hyd at £5000.

Mae nifer o adnoddau ar gael i helpu landlordiaid i gydymffurfio, gan gynnwys cynlluniau a allai helpu gyda’r gost o wneud gwelliannau arbed ynni i’ch eiddo.

Fel rhan o gronfa Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, mae cynllun NYTH yn cynnig cyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i’ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad.

Mae gofynion y ddeddfwriaeth hefyd wedi’u hadlewyrchu yn ein Cod Ymarfer i ddeiliaid trwyddedi. Bydd methu â bodloni’r safonau gofynnol yn peryglu eich trwydded ac, o ganlyniad, eich busnes.

Mae Rhentu Doeth Cymru wedi bod yn gweithio i weld pa eiddo ar eu cronfa ddata sy’n methu bodloni’r safon ofynnol ar hyn o bryd. Bydd landlordiaid eiddo sy’n methu cydymffurfio yn cael eu hatgoffa am eu dyletswydd i gydymffurfio, ac yn cael cynnig cymorth drwy eu cyfeirio at gynlluniau allai helpu gyda chostau gwneud gwelliannau arbed ynni yn eu heiddo.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:

“Rydyn ni am sicrhau bod cartrefi Cymru yn arbed ynni.

“Bydd y safonau newydd a gyflwynwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn sicrhau bod pobl sy’n rhentu cartrefi yng Nghymru yn manteisio ar gartrefi cynhesach, a fydd yn helpu i ostwng costau ynni ac yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd.”

%d bloggers like this: