04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Lee Waters, Deputy Minister for Climate Change visits 'Stump Up For Trees' campaigners; Dr Keith Powell and Kate Beavan

Rheolau sy’n gwneud gweithgynhyrchwyr yn gyfrifol am wastraff sy’n cael ei greu gan eu cynhyrchion

MAE Cymru – sy’n drydydd yn y byd am ailgylchu domestig – wedi ymuno â gwledydd eraill y DU i gyflwyno rheolau ‘y llygrwr sy’n talu’ newydd i wneud i fusnesau sy’n gosod nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad dalu am ailgylchu eu gwastraff.

Ond mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd un cam ymhellach drwy ymrwymo i sicrhau bod cwmnïau sy’n gyfrifol am yr eitemau sbwriel mwyaf cyffredin sy’n anharddu strydoedd, cymunedau a chefn gwlad yn talu’r costau glanhau.

O dan y rheolau newydd, bydd angen logo ailgylchu safonol ar bob pecyn i helpu defnyddwyr i wybod beth allant ei roi yn eu biniau ailgylchu.

Bydd perchnogion brand, mewnforwyr, dosbarthwyr a marchnadoedd ar-lein yn talu ffi yn ôl y swm a’r math o ddeunydd pecynnu maent yn ei roi ar y farchnad.

Bydd diwydiant yn cael ei gosbi os yw ei becynnu’n anos ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu neu os yw’n methu cyrraedd targedau ailgylchu. Bydd y ffioedd fydd yn cael eu talu’n cael eu defnyddio i ariannu gwell casgliadau ar ochr y ffordd o wastraff pecynnu o gartrefi.

Bydd taliadau i awdurdodau lleol ar gyfer trin gwastraff pecynnu yn dechrau yn 2024.

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

“Sut daethon ni i sefyllfa lle mae posib lapio byrbryd cyflym mewn deunydd sy’n cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu?

Pan fydd yn cael ei daflu fel sbwriel, gall deunydd pecynnu greu hafoc i fywyd gwyllt ac i’n hiechyd ni. Nid yw’n diflannu pan fyddwch chi wedi gorffen gydag ef, dim hyd yn oed pan fyddwch chi’n cael gwared arno yn gywir, gan gostio’n ddrud i’r trethdalwr.

Rydyn ni’n falch o fod yn cyflwyno’r newidiadau pwysig yma a fydd yn arwain at gynhyrchwyr yn meddwl am y deunydd pecynnu maent yn ei roi ar y farchnad ac yn helpu i gymell ailgylchu, ochr yn ochr â’r llywodraethau eraill yn y DU.

Rydyn ni’n mynd gam ymhellach eto, drwy ymrwymo i godi tâl ar gynhyrchwyr os yw eu heitemau’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml.

Does gennym ni ddim ofn yr heriau sydd o’n blaen. Ers datganoli, rydyn ni wedi gweithio’n eithriadol galed i drawsnewid ein record ailgylchu, o fod yn un o’r rhai gwaethaf yn y byd i fod yn un o’r goreuon.

Gydag ymdrech Tîm Cymru gallwn greu economi wirioneddol gylchol lle rydym yn ailgylchu ac yn ailddefnyddio, yn cryfhau ein cadwyni cyflenwi lleol, yn lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion ac yn diogelu’r blaned. Mae digwyddiadau’r byd yn dangos pa mor frys yw hyn.”

Mae Cymru hefyd yn ymuno â Lloegr a Gogledd Iwerddon i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes, a fydd yn cynnwys poteli gwydr PET, a chaniau dur ac alwminiwm. Fodd bynnag, mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd gam ymhellach eto drwy ymrwymo y bydd poteli gwydr yn cael eu cynnwys yn y cynllun hefyd.

Bydd rhagor o fanylion am ddyluniad y Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Bydd yn ofynnol hefyd i siopau coffi mwy a chadwyni bwyd cyflym gael biniau ailgylchu pwrpasol yn eu siopau o 2024 ymlaen ar gyfer casglu cwpanau papur tafladwy.

Mae’r DU yn defnyddio 2.5 biliwn o gwpanau coffi tafladwy bob blwyddyn ac mae tua hanner miliwn o gwpanau coffi’n cael eu taflu fel sbwriel bob dydd, yn ôl adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol.

Mae’r cwpanau’n anodd eu hailgylchu – maen nhw wedi’u gwneud yn bennaf o bapur wedi’i leinio â phlastig ac wedi’u baeddu. Ar hyn o bryd dim ond tri chyfleuster ailgylchu arbenigol sydd yn y DU sy’n gallu eu prosesu. Mae hyn yn golygu mai dim ond cyfran fechan o gwpanau coffi untro sy’n cael eu gwaredu’n gywir a’u hailgylchu.

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol i ddod yn Genedl Ddiwastraff erbyn 2050 ac, ar hyn o bryd, mae’n sbarduno’r symud tuag at economi gylchol – lle mae gwastraff yn cael ei droi’n adnodd a’i gadw i gael ei ddefnyddio am gyhyd â phosibl.

Yn ogystal â thorri allyriadau CO2 niweidiol sy’n arwain at newid yn yr hinsawdd a llygru cynefinoedd bywyd gwyllt, bydd model economi gylchol yn meithrin gwytnwch yng nghadwyni cyflenwi Cymru wrth iddo leihau dibyniaeth ar fewnforion o dramor.

%d bloggers like this: