03/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Mari Williams, Grŵp Cynefin’s new Marketing and Communications Manager

Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd yn ymuno â “chwmni da”

MAE Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata newydd Grŵp Cynefin yn dweud ei bod wrth ei bodd o ymuno â “chwmni da” ac yn edrych ymlaen at yr her sydd o’i blaen.

Dyna eiriau Mari Williams, o Lanuwchllyn, ger Y Bala wrth iddi ddechrau ar ei swydd newydd: “Roedd y swydd yn apelio oherwydd bod gan Grŵp Cynefin enw fel cwmni da yn fy milltir sgwâr ac fy mod yn gyfarwydd â’u hethos ers fy nyddiau’n rhedeg y papurau lleol.”

Adeiladu ar y gwaith hwnnw o godi proffil y gymdeithas dai, sy’n gweithredu yng ngogledd Cymru a gogledd Powys, fydd rhan o rôl y cyn berchennog a chyn olygydd papurau newydd Y Cyfnod a’r Corwen Times.

Yn ôl Mari Williams: “Dwi’n dechrau ar swydd mewn cyfnod na welwyd ei fath, gyda llawer o staff yn gweithio o gartref a’n swyddfeydd ar gau. Felly mae dod i adnabod y staff, y gwahanol adrannau a gwaith y grŵp yn sialens ynddo’i hun, a dwi’n edrych ymlaen at fynd i’r afael â chyfathrebu mewnol ac allanol y gymdeithas dai.

“Beth sy’n agoriad llygad yw deall bod nifer o staff y gymdeithas sydd wedi bod efo’r cwmni ers cymaint o flynyddoedd. Mae’n siarad cyfrolau am y math o gwmni ydi Grŵp Cynefin i weithio iddo. Y staff ydi asgwrn cefn y gymdeithas ac mae eu hymroddiad a’u profiad yn amhrisiadwy. Law yn llaw â hynny mae ganddynt sgiliau ac arbenigedd mewn cymaint o wahanol feysydd..”

Mae Mari’n ymuno â’r gymdeithas dai wedi treulio bron i bedair blynedd fel golygydd cylchgronau yna rheolwr cyfathrebu Urdd Gobaith Cymru.

Dechreuodd ei gyrfa gyda chwmni Golwg, cyn mynd ymlaen i weithio’n llawrydd i amrywiol gyhoeddiadau, gan gynnwys y Western Mail. Yna, bu’n rheolwr cyfathrebu i BBC Cymru am 14 mlynedd, lle treuliodd gyfnod helaeth o’r amser yn gweithio yng Nghaerdydd.

Mae bellach yn byw yn ardal Llanuwchllyn, yn briod gyda newyddiadurwr ac yn magu dau o blant.

“Yr hyn nad oeddwn i’n ei wybod oedd ystod y gwasanaethau a pha mor eang ydi gwaith y Grŵp – cefnogi lles tenantiaid, trais yn y cartref, teuluoedd bregus, digartrefedd – mae Grŵp Cynefin yn delio hefo problemau dyrys. Mae’n gyfnod ofnadwy o gyffrous hefyd gyda datblygiad iechyd a lles gwirioneddol arloesol yn Nyffryn Nantlle a’r cynllun tai gofal mwyaf yn hanes y gymdeithas yn Ninbych.

“Ddyddiau’n unig wedi dechrau’r swydd, mi ddysgais bod neges greiddiol y gymdeithas ‘Mwy na Thai’ yn llygad ei lle.”

Mae’r gymdeithas dai yn rheoli 4,800 eiddo ledled gogledd Cymru a gogledd Powys ac ar hyn o bryd yn delio gydag effaith y pandemig ar waith dydd i ddydd staff a thenantiaid.

Gwreiddiau Grŵp Cynefin yw atgyfnerthu a chyfoethogi cymunedau, ac mae’r iaith a’r diwylliant yn flaenllaw yn ei hystyriaethau.

“Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu mwy, cydweithio â phartneriaid y gymdeithas, staff ac aelodau’r Bwrdd ac adeiladu ar waith da Grŵp Cynefin i’r dyfodol,” meddai Mari Williams.

Wrth ei chroesawu i’r gymdeithas, dywedodd Shan Lloyd Williams, prif weithredwr Grŵp Cynefin: “Mae’n braf croesawu Mari i’n plith, fel un sydd â phrofiad helaeth ym maes cyfathrebu ac sydd â brwdfrydedd at y gwaith. Rydym yn edrych mlaen at dynnu ar ei phrofiad a datblygu’r gwaith o gyfathrebu a marchnata gwasanaethau a phrosiectau Grŵp Cynefin gyda’r byd.”

%d bloggers like this: