04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhowch CGP sy’n ffitio i’n gweithwyr benyw – Leanne

MAE Aelod Senedd y Rhondda wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i fod yn fwy rhagweithiol ac yn llai hunanfodlon am y diffyg CGP sydd wedi’i ddylunio ar gyfer menywod.

Ym mis Ebrill, galwodd Leanne Wood ar i’r Gweinidog Iechyd sicrhau CGP penodol i rywiau er mwyn gwneud yn siŵr fod menywod – sef y mwyafrif llethol o weithwyr yn lleoliadau’r GIG a gofal cymdeithasol – yn cael eu gwarchod yn ddigonol.

Mewn gohebiaeth yn ateb i Ms Wood yn gynharach, dywedodd y Gweinidog Iechyd Llafur ei fod wedi derbyn ‘cyngor nad yw’r diwydiant yn ystyried fod angen cynhyrchu CGP penodol i rywiau oherwydd amrywiaeth y meintiau sydd ar gael.’

Mae’r cyngor hwn yn mynd yn groes i ymatebion gan weithwyr ar lawr gwlad. Bedair blynedd yn ôl, dangosodd arolwg a gynhaliwyd gan nifer o sefydliadau – gan gynnwys yr undeb llafur Prospect a’r TUC – fod 57% o’r menywod a gymerodd ran yn gweld fod eu CGP weithiau neu yn sylweddol yn amharu ar eu gwaith. Canfu ffigyrau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos hon fod menywod yw bron i ddwy ran o dair o bob achos coronafeirws a gadarnhawyd.

Dywedodd Ms Wood nad oedd yr agwedd tuag at amddiffyn menywod sy’n peryglu eu bywydau er mwyn trin cleifion a thrigolion “yn ddigon da.”

“Amcangyfrifwyd bod 77% o weithlu’r GIG yng Nghymru yn fenywod,” meddai.

“Mae cyfran uwch fyth o fenywod yn gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol; sector arall sydd â risg uchel o ran coronafeirws. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif ei fod mor uchel â 83% o’r gweithlu.

“Gwyddom hyn nid yn unig o hanesion, ond o arolygon gan undebau llafur hefyd, fod y cyfarpar a ddarparwyd wedi ei ddylunio i ffitio dynion. Mae siâp cyrff menywod yn wahanol; gall hyd yn oed y gogls fod yn rhy fawr i bennau llawer o fenywod. Nid yw disgwyl i gyfran mor fawr o’r gweithlu wisgo cyfarpar gwarchod nad yw’n ffitio yn ddigon da, yn enwedig pan fod risg i’w bywydau.

“Mae eistedd yn ôl a gwneud dim byd – fel y mae’r Llywodraeth Lafur yn barod i wneud – yn arwydd o anwybyddu eu dyletswydd tuag at y miloedd o weithwyr benywaidd sydd wedi sefyll yn y bwlch i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws.

“Mae hyn yn arswydus o hunan-foddhaus, ac yn anghyfrifol.”

Ychwanegodd Leanne: “Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Llafur, gan ofyn iddo ddatgelu pwy ddywedodd wrtho nad oes angen darparu CGP a ddyluniwyd ar gyfer menywod, yn groes i’r dystiolaeth a gawsom gan weithwyr ar lawr gwlad.

“Rwyf hefyd wedi galw ar y Llywodraeth Lafur i fod yn fwy rhagweithiol ynghylch rhoi i fenywod y cyfarpar sylfaenol i’w cadw eu hunain, cleifion a thrigolion cartrefi gofal yn ddiogel.”

%d bloggers like this: