09/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhowch wybod i Crimestoppers am fasnachwyr diegwyddor a throseddau ar drothwy drws

GALL trigolion a busnesau ar hyd a lled Cymru sy’n credu bod masnachwyr diegwyddor yn targedu eu cymuned, neu sy’n adnabod rhywun sydd wedi dioddef yn sgil trosedd ar drothwy’r drws roi gwybod yn ddienw i Crimestoppers.

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cymru ac elusen wedi ymuno i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi aelodau o’r cyhoeddi i ddarparu gwybodaeth werthfawr yn ddi-enw i gadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach.

Dyma’r mater diweddaraf y mae’r ddau sefydliad wedi bod yn cydweithio arno i annog aelodau o’r cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth am bryderon a allai fod ganddynt, yn gwbl ddienw.

Meddai Helen Picton, Cadeirydd Gwasanaeth Safonau masnach Cymru:

“Rydym ni’n falch iawn gallu gweithio gyda Crimestoppers a chynnig ffordd i aelodau o’r cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw.

“Gall trosedd ar y trothwy effeithio ar unrhyw un, ond yn aml iawn, yr henoed a phobl agored i niwed sy’n cael eu targedu gan fasnachwyr diegwyddor sy’n cynnig gwasanaethau gwella’r cartref.

“Gall gwerthwyr o’r fath gynnig gwasanaethau, gan gynnwys glanhau ffenestri, cwteri, atgyweirio llwybrau neu ddreif, a gwaith ar y to neu adeiladu, gerddi, tocio coed neu hyd yn oed perswadio’r trigolion bod yn rhaid iddyn nhw ddod i mewn i’w cartref i ‘wirio rhywbeth’.

“Gallant fod yn argyhoeddiadol iawn a cheisio’n galed i’ch darbwyllo trwy eu dulliau gweithredu a’r hyn a ddywedant – mae’n hawdd cael eich twyllo. Sgamwyr di-gymhwyster yw’r bobl yma sy’n codi ffioedd anferthol am ddim neu’r nesaf peth i ddim.”

Stopiwch Fasnachwyr Twyllodrus – Taflen

Dylai trigolion a busnesau fod yn ymwybodol o’r arwyddion hyn os yw masnachwr diegwyddor yn gweithredu yn eu hardal:

Gwasanaethau heb eu gorffen neu wasanaethau o ansawdd gwael; Prisiau uwch a mynnu bod y gwaith yn waith brys; Pwysau i gytuno yn y fan a’r lle; Taliadau arian parod ymlaen llaw; Dim gwaith papur a/neu hawl i ganslo’r Gwaith; Heb fod yn darparu manylion y masnachwr; Taflenni’n datgan Cyfnod Callio Statudol; Anwybyddu arwyddion neu sticeri sy’n gofyn i’r masnachwr adael a pheidio â dychwelyd; Gwerthu nwyddau o fan yn dilyn galwad ddi-rybudd ar drothwy’r drws, a Gwerthu o leoedd anarferol, e.e. sêl cist car

“Os credwch fod masnachwr diegwyddor yn gweithredu yn eich cymuned chi, neu os yw rhywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef yn sgil trosedd ar drothwy’r drws, yna rhowch wybod i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org a dweud wrthynt beth wyddoch chi. Gall eich gwybodaeth gadw cymunedau ar hyd a lled Cymru’n ddiogel,” ychwanega Helen Picton.

Os yw’n fater brys, neu os yw masnachwr diegwyddor yn yr eiddo, cysylltwch â 999, neu os oes angen cyngor arnoch i helpu gydag anghydfod, pryder neu amheuaeth, ffoniwch Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133.

 

%d bloggers like this: