04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Rhwydwaith beicio ardal Abertawe fwy poblogaidd nag erioed

MAE rhwydwaith llwybrau cerdded a beicio cynyddol ein dinas yn dod yn fwy poblogaidd nag erioed, yn ôl arolwg newydd.

Mae gan y ddinas 120km o lwybrau beicio a cherdded hygyrch, oddi ar y ffordd ac a rennir, ac ers dechrau’r pandemig, maent wedi dod yn fwy poblogaidd nag erioed wrth i bobl fynd ar gefn eu beiciau i gael ymarfer corff.

I weld cynllunydd teithiau Llwybrau Bae Abertawe, ewch: https://bit.ly/3sCKo88

Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar gyfer ymgyrch Llwybrau Bae Abertawe, roedd 81% o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg wedi dweud y byddai’n well ganddynt feicio neu gerdded i’r gwaith neu i’r siopau. Yn ogystal â hynny, dywedodd 25% o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio’r llwybr beicio neu gerdded lleol am y tro cyntaf yn ystod y pandemig.

Mae’r arolwg yn adlewyrchu ymchwil Cyngor Abertawe ei hun a ddangosodd fod nifer y bobl sy’n defnyddio’r llwybrau ers dechrau’r pandemig wedi treblu. Mae offer cyfrif beiciau trydanol a osodwyd ar hyd llawer o’r llwybrau ar hyd Bae Abertawe wedi cofnodi bod teirgwaith cymaint o feicwyr yn defnyddio’r llwybrau yn 2020 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.

Ceir rhagor o wybodaeth am raglen Teithio Llesol y cyngor yma: https://www.abertawe.gov.uk/cynlluniauteithiollesol

Croesawyd yr ymchwil hwn gan Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, a ddywedodd ei fod yn dangos sut mae pobl yn newid eu harferion mewn ffordd gadarnhaol.

Meddai: “Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mor agos y maen nhw i un o lwybrau oddi ar y ffordd Bae Abertawe sy’n ddiogel. Pe baen nhw, rwy’n siŵr y bydden nhw’n eu defnyddio’n fwy. Mae tua 60% o aelwydydd y ddinas o fewn 500 metr i lwybr beicio dynodedig sy’n eu cysylltu â llawer o leoedd eraill ar draws y ddinas.

“Mae rheolau cyfredol Llywodraeth Cymru ar wneud ymarfer corff yn dweud y gallwch feicio ar gyfer ymarfer corff, dylech ddechrau a gorffen gartref ac aros yn agos i ardal eich cartref. Yr hyn rydym ni’n gobeithio yw, ar ôl datblygu’r arfer beicio hwn yn ystod y cyfyngiadau symud, y bydd pobl yn parhau i’w wneud ac yn crwydro’n fwy eang pan fydd y cyfyngiadau wedi dod i ben.”

Mae tua £5.5m wedi’i fuddsoddi mewn llwybrau beicio yn Abertawe dros y 12 mis diwethaf, ac mae llwybrau newydd yn cael eu hadeiladu yn Mayals, Clun a Thre-gŵyr. Dylai pob un ohonynt fod yn barod erbyn y gwanwyn.

Mae ymgyrch Llwybrau Bae Abertawe hefyd wedi’i gwneud yn haws nag erioed i ddod o hyd i lwybrau newydd naill ai i deithio i’r gwaith neu’r ysgol, neu i fwynhau golygfeydd taith newydd na roddwyd cynnig arni o’r blaen

Meddai’r Cynghorydd Thomas, “Mae cynlluniau teithio llesol Llwybrau Bae Abertawe yn darparu cysylltiadau sydd wedi’u gwella’n helaeth i gymudwyr a phobl sydd am gerdded neu feicio at ddibenion eraill.”

 

%d bloggers like this: