09/16/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

YN ddiweddar, cymeradwyodd Cabinet Caerffili gynlluniau i gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau dros dro newydd, y ‘Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch’ ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 fel rhan o becyn ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Yn wahanol i’r cynlluniau grant diweddar, nid oes angen i fusnesau wneud cais; bydd mwyafrif helaeth y trethdalwyr sy’n gymwys yn cael y rhyddhad ardrethi hwn yn awtomatig fel credyd ar eu bil newydd 2021/22, gyda dim i’w dalu tan 1 Ebrill 2022.

Cyhoeddwyd y biliau diwygiedig gan Dîm Ardrethi Busnes y Cyngor i drethdalwyr cymwys sy’n meddiannu eiddo yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Anogir y rhai sy’n credu eu bod yn gymwys, ond nad ydynt wedi cael bil eto, i gysylltu â’r tîm trwy e-bost trethiannomestig@caerffili.gov.uk

Dywedodd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Menter:

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyhoeddi’r cymorth i fusnesau pan fydd ar gael. Mae hon wedi bod yn dasg enfawr dros y flwyddyn ddiwethaf yn creu systemau newydd sbon i gefnogi’r cronfeydd grant a rhyddhad newydd, ond mae’n hanfodol bwysig ein bod yn parhau i weithredu’n gyflym a chynorthwyo’r gymuned fusnes gyda phob adnodd sydd gennym.”

Ceir ragor o fanylion ar Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2021-22

%d bloggers like this: